Y Rôl
Fel Rheolwr Llwybr Perfformiad byddwch yn arwain ac yn gweithio fel rhan o dîm er mwyn cynorthwyo i ysgogi ein strategaeth ar gyfer magu pencampwyr a chefnogi mewn meysydd strategol eraill: datblygu ein pobl a gweithio gyda’n gilydd.
Cyfrifoldebau
Magu Pencampwyr
-
Gweithio gydag is-bwyllgor perfformiad y Bwrdd i adolygu a chyflawni pob agwedd o lwybrau perfformiad a datblygu Codi Pwysau a Chodi Pwysau gyda Phŵer Para.
-
Rhoi arweinyddiaeth mewn gwersylloedd hyfforddi a pharatoi yn ogystal â mewn digwyddiadau rhyngwladol, gan weithredu fel prif hyfforddwr a/neu reolwr tîm yn ôl yr angen.
-
Creu llwybr datblygu athletwyr, lle mae athletwyr a hyfforddwyr yn ffynnu.
-
Darparu gwasanaeth cymorth gwyddoniaeth a meddygaeth ryngddisgyblaethol.
Datblygu ein Pobl
-
Datblygu ac arwain gweithlu hyfforddi.
-
Rhoi arweiniad i hyfforddwyr am gynllunio ac adolygu rhaglenni hyfforddi unigol ar gyfer athletwyr sy’n cael eu hariannu.
-
Rhoi cefnogaeth i athletwyr yn y cyfnod pontio, y tu hwnt i'w gyrfaoedd cystadleuol uwch.
Gweithio Gyda’n Gilydd
-
Cefnogi creu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol, datblygu rhaglenni academi a llwybrau trosglwyddo talent i ac oddi wrth Codi Pwysau Cymru.
-
Rheoli perthynas â chydweithwyr yn Chwaraeon Anabledd Cymru, Gemau'r Gymanwlad Cymru, Chwaraeon Cymru, UK Anti-Doping a British Weightlifting.
Manyleb Y Person
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o hyfforddi ar lefelau elît a’r rhai sy’n datblygu ac integreiddio gwyddor chwaraeon, meddygaeth chwaraeon a rhaglenni hyfforddi. Bydd ganddynt brofiad o gynhyrchu, gweithredu a monitro cynlluniau a chyllidebau.
Mae gwybodaeth gadarn am gystadlaethau cylchol ar lefel ryngwladol, methodoleg hyfforddi, egwyddorion fel sail datblygiad hirdymor athletwyr a deddfwriaeth diogelu gyfredol yn ogystal ag ymarfer da yn ofynion hanfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfathrebwr rhagorol, gyda'r gallu i ysbrydoli, trefnu a chymell eraill. Byddant yn creu a chadw perthnasau, yn meddu ar sgiliau hunan drefnu er mwyn rheoli llawer o brosiectau ar yr un pryd a chyflawni o dan bwysau.
Mae’n angenrheidiol eu bod yn meddu ar drwydded yrru ddilys, DBS uwch, tystysgrif diogelu ddilys a bod ganddynt drwydded hyfforddi Codi Pwysau Prydeinig o fewn 6 mis ar ôl dechrau yn y swydd.
Mae canolbwyntio ar y nod, gweithio’n dda fel rhan o dîm, agwedd hyderus, uniondeb a safonau moesol uchel yn nodweddion hanfodol.
Mae gallu siarad Cymraeg a phrofiad o hyfforddi codwyr pwysau elît a rhai sy’n datblygu yn ddymunol, ond ddim yn hanfodol.
Cliciwch yma i weld y swydd ddisgrifiad a manyleb y person llawn.
Ein Datganiad Cydraddoldeb
Mae Codi Pwysau Cymru wedi ymrwymo i wneud ein chwaraeon yn hygyrch i gyfranogwyr o bob cefndir cymdeithasol ac ethnig. Rydym yn parhau i roi mentrau ar waith i ddatblygu cyfleoedd a lleihau rhwystrau i gymryd rhan. Mae’n hynod bwysig bod holl staff Codi Pwysau Cymru ac aelodau bwrdd, ynghyd ag aelodau a gwirfoddolwyr, yn deall sut maent yn cyfrannu at ein polisi Cydraddoldeb.
Dyddiad Cau i Gyflwyno Cais: 29 Ebrill 2022 am 17:00.
Dylai ymgeiswyr gyflwyno llythyr eglurhaol a CV, yn esbonio'n glir sut maent yn bodloni holl ofynion hanfodol y swydd hon, a’i anfon at sylw Hannah Powell: hannah.powell@weightlifting.wales
I drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â’r Rheolwr Strategaeth a Datblygu, Simon Roach simon.roach@weightlifting.wales