Gwahoddwyd pum ysgol a mwy na 100 o ddisgyblion i Ganolfan Hamdden Gymunedol Penlan i GO TRI, cwrs triathlon wedi’i ddylunio yn arbennig, gyda phara athletwyr, hyfforddwyr chwaraeon a hyd yn oed chwaraewr rygbi rhyngwladol gyda Merched Cymru yn bresennol.
Dyma’r tro cyntaf i’r mwyafrif helaeth o’r plant brofi her triathlon – gyda GO TRI a Chymryd Rhan yn rhan o ethos yr Ŵyl Para Chwaraeon, sy’n annog pobl i ddod i roi cynnig ar chwaraeon am y tro cyntaf erioed yn nigwyddiad cyfres insport ddydd Mawrth 11 Gorffennaf.
Yn dilyn yr ymweliadau ag ysgolion, daeth aelodau o Hwb Llwybr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru, sydd ag ychydig mwy o brofiad o chwaraeon, i gael eu blas cyntaf o driathlon i lawer ohonynt hwy hefyd hyd yn oed.
Dywedodd Gwyndaf Lewis, Swyddog Cyfranogiad Triathlon Cymru: “Mae’n bwysig iawn cael plant yn ôl allan ac yn gwneud gweithgareddau chwaraeon ar ôl y cyfyngiadau ar gyfranogiad grŵp yn ystod Covid. Mae cael elfen gystadleuol i ddigwyddiad GO TRI yn helpu plant i wthio eu terfynau eu hunain ac mae'n rhoi hwb enfawr i hyder yn ogystal â bod yn llawer o hwyl. Mae hyn yn rhan o'n prosiect gwaddol ni sy’n cael ei gyflwyno mewn pedair ysgol ar ddeg dros wyth wythnos i blant roi cynnig ar driathlon. Y gobaith yw y bydd llawer o’r plant yma’n ymuno â Thriathlon Cymru neu glwb lleol ac yn datblygu’r gamp ledled Cymru. Mae gan Abertawe gyfleusterau chwaraeon gwych ac, ers sawl blwyddyn bellach, mae wedi bod yn gwneud gwaith gwych yn dod â digwyddiadau chwaraeon mawr i'r ddinas ac yn hybu iechyd a lles pawb.”
Dywedodd Mark Evans, Chwaraeon ac Iechyd Abertawe: “Mae’r digwyddiad GO TRI yma’n ddechrau ar ein tymor triathlon ni a thros yr haf byddwn yn trefnu mwy o’r digwyddiadau hyn ac yn gwahodd llawer o ysgolion i ddod draw i flasu triathlon am y tro cyntaf. O safbwynt cyfranogiad, rydyn ni’n credu mai triathlon yw un o'r chwaraeon gorau oherwydd ei fod yn cynnwys nofio, beicio a rhedeg. Mae’n gynhwysol iawn ac fe all pawb gymryd rhan. Fe allwn ni efelychu nofio ar gyfer y lleoliadau hynny heb bwll nofio neu ar gyfer plant sydd ddim yn gallu nofio, ac mae gennym ni feiciau llaw a sgwteri ar gyfer y rhai sydd ddim yn gallu reidio beic - fel bod pawb yn gallu cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a mwynhau eu hunain. Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad gwych a byddwn yn gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i annog ysgolion i ddod draw i’r Ŵyl Para Chwaraeon ar ddydd Mawrth 11 Gorffennaf lle bydd triathlon yn un o fwy nag ugain o chwaraeon y gall plant roi cynnig arnyn nhw am ddim. O’r fan honno, fe allwn ni gyfeirio pobl at glybiau lleol, fel Celtic Tri, sy’n glwb plant ac oedolion cynhwysol.”

Dywedodd Robyn Wilkins, Uwch Swyddog ChAC – Gŵyl Para Chwaraeon a chwaraewr rygbi rhyngwladol gyda Merched Cymru: “Gyda hanner can diwrnod i fynd tan yr Ŵyl Para Chwaraeon yn Abertawe, sy’n cynnwys Cyfres Para Triathlon y Byd Abertawe, roedden ni eisiau dathlu’r dyddiad gyda digwyddiad insport GO TRI, ac mae wedi bod yn hynod lwyddiannus. Rydyn ni wedi cael llawer o blant yn rhoi cynnig ar driathlon am y tro cyntaf erioed, ac maen nhw i gyd wedi mwynhau eu hunain. Roedd y nofio, y beicio a’r rhedeg mewn sesiynau pum munud, felly doedd neb yn gallu bod ormod ar ei hôl hi, a oedd yn ei gadw'n hwyl i bawb, dim ots beth oedd eich gallu chi na pha mor gyflym neu araf oeddech chi’n symud. Mwynhau oedd yr holl nod."
“Mae digwyddiadau fel heddiw yn gyfle gwych i ni ddangos pa mor gynhwysol y gall chwaraeon fod, gan gynnwys gwerth gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cyfleoedd cynhwysol o ansawdd uchel i bawb. Ni fyddai digwyddiad heddiw wedi bod yn bosibl heb y dull cydweithredol o weithio a chefnogaeth gan Driathlon Cymru, Cyngor Abertawe, Chwaraeon Anabledd Cymru a Bikeability.”
“Fe fydd gennym ni feiciau a sesiwn rhedeg fel deuathlon, ochr yn ochr â mwy nag ugain o chwaraeon eraill, yn yr Ŵyl Para Chwaraeon ym mis Gorffennaf ac unwaith eto bydd yn ymwneud ag annog pobl o bob oedran a phob gallu i ddod i roi cynnig arni. Mae digwyddiad Cyfres insport yn cael ei gynnal ar y dydd Mawrth [11 Gorffennaf], cyn ras Cyfres Para Triathlon y Byd ar y dydd Sadwrn [15 Gorffennaf]. Bydd Cyfres Para Triathlon y Byd hefyd yn cynnal digwyddiad profiad carped glas ar y dydd Gwener [14 Gorffennaf] lle gall pobl fynd ar yr hyfforddwr tyrbo, a rhoi eu traed yn y dŵr ar y carped glas lle mae athletwyr Para Triathlon y Byd yn croesi'r llinell derfyn y diwrnod canlynol. Mae’n gyfle gwych i ysgolion gymryd rhan ac i bobl ifanc brofi rhywbeth arbennig iawn mewn lleoliad o safon fyd-eang. Gobeithio y byddan nhw’n dychwelyd i gefnogi Para Athletwyr Triathlon y Byd y diwrnod wedyn hefyd.”
Un o athletwyr yr Hwb Llwybr Perfformiad a ddaeth i ddigwyddiad GO TRI yn Abertawe yw Sienna Allen-Chaplin, naw oed – sydd wedi elwa’n fawr o gymryd rhan mewn chwaraeon ac sy’n ysbrydoliaeth anhygoel i eraill.
Dywedodd Jo Allen-Chaplin, mam Sienna: “Fe ddechreuodd Sienna gryfder a chyflyru pan oedd hi’n bedair a hanner i adeiladu ei stamina a’i chryfder craidd, sydd wedi cael effaith anhygoel ar ei symudedd, ac oherwydd hyn mae hi wedi gallu cymryd rhan mewn chwaraeon. Ar hyn o bryd, mae Sienna yn gwneud gymnasteg, nofio ac athletau yn wythnosol, a dringo a sgïo bob mis. Fe wnaeth hi aquathon yn ddiweddar, felly rydyn ni’n edrych ar driathlon nawr oherwydd ei bod hi eisoes yn cymryd rhan mewn llawer o’r disgyblaethau ac rydyn ni’n meddwl y bydd yn beth da iddi ei wneud.
“Mae Sienna yn actif iawn ac mae hi wrth ei bodd gyda chwaraeon. Rydyn ni wedi sefydlu tudalen cyfryngau cymdeithasol [Instagram: siennas_cp_journey] i ysbrydoli rhieni eraill, gobeithio, oherwydd mae bod yn gorfforol actif yn gwneud cymaint o wahaniaeth ac mae hi wedi cyfarfod pobl anhygoel drwy hyn.
“Mae’n anhygoel gweld cynnydd Sienna. Pan gafodd hi ddiagnosis o barlys yr ymennydd, fel rhieni, doedden ni ddim yn gwybod beth fyddai’r rhagolygon – ond roedden ni eisiau dangos iddi bod unrhyw beth yn bosibl. Do, rydyn ni wedi cael y diagnosis yma, ond nid dyma'r diwedd. Rydych chi’n gallu gwneud popeth mae eich cyfoedion chi’n gallu ei wneud a’r un pethau ag y mae ei brawd, Trystan, yn gallu eu gwneud, felly rydyn ni bob amser wedi rhoi’r holl gyfleoedd y byddwn ni’n eu rhoi i’w brawd iddi o ran cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau.
“Mae digwyddiad fel yr Ŵyl Para Chwaraeon yn gyfle gwych i weld yr holl athletwyr gwahanol – y rhai sydd wedi’u geni ag anabledd, neu’r rhai sy’n dod yn anabl yn nes ymlaen yn eu bywyd oherwydd salwch neu ddamwain. Mae'n dangos beth sy'n bosibl a sut mae chwaraeon yn dod â phobl at ei gilydd.
“Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn dda i blant ddod i roi cynnig ar chwaraeon, i gael eu hysbrydoli gan y para athletwyr a fydd yno ac i weld beth allwch chi fynd ymlaen i’w wneud. Mae’n well fyth bod y digwyddiad yn ein tref enedigol ni, Abertawe!”
Mae’r cofrestru ar agor i unigolion neu ysgolion gadarnhau eu lle am ddim yn nigwyddiad Cyfres insport nawr. Mae hwn yn gyfle i bawb brofi'r ystod o gyfleoedd cynhwysol ac anabledd penodol sydd ar gael yn Abertawe. Mae rhagor o wybodaeth a chyfle i gofrestru ar gael drwy www.parasportfestival.co.uk
Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau’r Ŵyl Para Chwaraeon, gan ddechrau gyda’r Ornest Para Golff Agored ar 10 Gorffennaf, gan gynnwys y cyfleoedd i gofrestru i wylio a / neu wirfoddoli ar gyfer yr holl ddigwyddiadau, hefyd ar gael drwy www.parasportfestival.co.uk.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167