Interniaeth Rheoli Digwyddiadau
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn chwilio am Intern Rheoli Digwyddiadau uchelgeisiol, deinamig a dyfeisgar i ymuno â'n tîm, i gefnogi'r gwaith o drefnu a chyflwyno rhaglen digwyddiadau cynhwysol.
Yn gyfrifol i: insport Senior Officer
Lleoliad: Hyblyg (o gartref neu Gaerdydd gyda teithio i Abertawe)
Cytundeb: 21 awr yr wythnos, am gyfnod penodol (30 wythnos)
Cyflog: £9.50 yr awr
Dyddiad Cau: 7fed Chwefror 2022 (hanner dydd)
Cefndir: Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (neu Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC)) yw'r sefydliad arweiniol yng Nghymru ar gyfer chwaraeon anabledd a chwaraeon i bobl anabl. Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig. Rydyn ni’n rhannu’r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru (cenedl egnïol lle gall pawb gael mwynhad oes o chwaraeon) a’n cenhadaeth yw
dylanwadu, cynnwys, ysbrydoli, insport
Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu rhaglenni penodol (rhaglen gymunedol, insport, Hybiau Perfformiad) a gwasanaethau (Addysg a Hyfforddiant ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â gweithgaredd corfforol (gan gynnwys chwaraeon)) y bwriedir iddynt gefnogi llwybr o ddewis o ymgysylltu cychwynnol i chwaraeon perfformiad ar y lefel uchaf.
Rydyn ni'n dîm bach o unigolion hynod ymroddedig, angerddol, a'u pwrpas cyffredin yw eiriol dros ymagwedd gynhwysol o fewn y sector.
Datganiadau Gwerth DSW
Byddwch bob amser yn gallu disgwyl i ChAC (fel sefydliad ac unigolion o fewn y tîm):
- Hyrwyddo Pawb - Rydym yn credu mewn cyfle ystyrlon, amrywiaeth eang a chyflawniad gwych, gyda phobl yn ganolog ym mhopeth rydym yn ei wneud.
- Balch o’n Cymreictod - Gyda’n gilydd rydym yn ymroddedig, angerddol a chroesawgar.
- Gwerthfawrogi Twf - Rydym yn gwrando ac yn dysgu; rydym yn meithrin, rhannu a chefnogi.
- Tynnu Sylw at Bosibilrwydd - Rydym yn uchelgeisiol, creadigol a dyfeisgar.
Y Cyfle:
Interniaeth â thâl am 30 wythnos ar gyfer unigolyn uchelgeisiol, deinamig a dyfeisgar i gefnogi amrywiaeth o bartneriaid i gyflwyno Gŵyl Para Chwaraeon ym mis Awst 2022.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i ymwneud â phob agwedd o gynllunio a chyflwyno'r digwyddiad, gan gynnwys logisteg, cyfathrebu, ac effaith gymunedol ehangach
Byddwch yn gynllunydd diwyd a threfnus, yn ogystal â chefnogwr digwyddiadau ymarferol, a fydd yn dod ag egni a brwdfrydedd i'r rôl newydd hon - gan sicrhau bod profiadau o ansawdd uchel yn cael eu Dyddiad Cau: 7fed Chwefror 2022 (hanner dydd) cyflwyno'n effeithiol trwy lygad am fanylion, agwedd gynhwysol, ac ymdrechgar. am brofiad digwyddiad cadarnhaol i bawb.
Bydd rheoli cydberthnasau hefyd yn hollbwysig yn y rôl hon, felly, dylech fod yn hyderus wrth gysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn fewnol ac yn allanol, gyda'r gallu i negodi i ddod o hyd i atebion.
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm uchelgeisiol, creadigol a dyfeisgar, hynod ymroddedig sydd â’r pwrpas cyffredin o eiriol dros ymagwedd gynhwysol o fewn y sector. I'r ymgeisydd llwyddiannus bydd y cyfle hwn yn rhoi llwyfan i adeiladu eu gwybodaeth a'u profiad.
Pam ddylech chi wneud cais am y rôl hon?
- Bod yn rhan o dîm cefnogol, deinamig a rhagweithiol
- Polisïau a gweithdrefnau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Dyraniad gwyliau blynyddol gwych
- Gweithio i gyflogwr teg ac amrywiol, gyda moeseg a gwerthoedd proffesiynol cryf
Budd-daliadau
- £9.50 yr awr (21 awr yr wythnos, cyfnod penodol (30 wythnos))
- Bwrsariaeth hyfforddi o £1,000
- Pecyn cit tîm
Sut i wneud cais?
Gofynnir i chi lenwi Ffurflen Cais am Gyflogaeth (tudalennau 8 i 13 yn y pecyn hwn) yn amlinellu gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch profiad a manylion y swydd sydd wedi’u hamlinellu yn y Disgrifiad Rôl (tudalennau 5 i 7 yn y pecyn hwn).
Os hoffech chi gyflwyno'r Ffurflen Cais am Gyflogaeth drwy fideo Iaith Arwyddion Prydain, cofiwch wneud hynny, gan gynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol.
Hefyd dychwelwch y Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal (tudalennau 14 i 18 yn y pecyn hwn). Sylwer bod yr wybodaeth hon yn ddienw ac yn gyfrinachol.
Anfonwch yr wybodaeth hon mewn ffeil ar wahân wedi’i hatodi wrth eich e-bost, gyda'r enw CYFRINACHOL. Wedyn caiff yr wybodaeth hon ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais a'i hystyried YN UNIG ar gyfer monitro cydraddoldeb prosesau a demograffeg ChAC drwy'r cam recriwtio.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn Gyflogwr Hyderus am Anabledd ac yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n ystyried eu hunain yn gymwys ar gyfer y rôl. Byddwn yn gweithio gyda phob ymgeisydd a chyflogai i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i berfformio i'w llawn botensial.
Os hoffech chi drafod ffyrdd eraill o gyflwyno'ch cais, cysylltwch â ni trwy’r manylion isod.
Dylid cyflwyno ceisiadau i office@disabilitysportwales.com
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, a fyddech cystal â naill ai: ebost office@disabilitysportwales.com neu ffoniwch/testun Tom Rogers, 07458031779