Mae Kyran Bishop yn dweud bod chwarae Rygbi Cadair Olwyn wedi newid ei fywyd, wrth i Chwaraewr y Flwyddyn Tîm Rygbi Cadair Olwyn y Gweilch baratoi i helpu i arddangos y gamp yn yr Ŵyl Para Chwaraeon (1-7 Awst), sy’n cael ei threfnu gan Chwaraeon Anabledd Cymru.
Bydd Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored gyntaf Cymru yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd Parc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ar ddiwrnod olaf ond un yr ŵyl (dydd Sadwrn 6 Awst) – ac mae croeso i bawb ddod i wylio a chael gwybod mwy am y gamp hynod egnïol yma!
Bydd pedwar clwb yn cystadlu yn nhwrnamaint WR5 – gyda Dreigiau Casnewydd a’r Gweilch yn cynrychioli De Cymru, RGC yn cynrychioli Gogledd Cymru ac o Loegr, y Tiger Seals, a fydd yn cynnwys cyfuniad o chwaraewyr o Help 4 Heroes a’r Leicester Tigers.
Mae Tîm Rygbi Cadair Olwyn lleol y Gweilch yn cynnwys grŵp o chwaraewyr a gwirfoddolwyr angerddol sydd wedi datblygu’r gamp.
Mae'r clwb hynod gyfeillgar sy'n canolbwyntio ar deuluoedd yn cynnwys chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd gydag ystod eang o anableddau. Maent yn chwarae timau o 5 a 4 (y fersiwn Paralympaidd) yn gystadleuol mewn twrnameintiau cynghrair. Mae pobl hefyd yn chwarae i gadw'n heini, cael hwyl a chwrdd â phobl newydd. Mae gan y clwb hefyd dîm ieuenctid bywiog sy'n tyfu.
Mae bod yn rhan o Dîm Rygbi Cadair Olwyn y Gweilch nid yn unig wedi cael effaith gadarnhaol ar Kyran ond ar ei deulu hefyd. Ers iddo ddechrau chwarae, mae ei fam Rachael wedi dod yn Ysgrifennydd y clwb a’i dad Michael bellach yw mecanig y clwb, yn atgyweirio pyncjars neu broblemau gyda’r cadeiriau yn ystod yr hyfforddiant a’r twrnameintiau.
“Mae gan Kyran barlys yr ymennydd ac mae’n defnyddio cadair olwyn,” meddai Rachael.
“Yn sicr roedd tyfu i fyny yn heriol i Kyran, yn enwedig o ran chwaraeon a chael ei gynnwys. Aeth i’w gragen a bwyd oedd ei bleser mewn bywyd - felly mae dod o hyd i rywbeth mae'n ei hoffi gymaint wedi newid ei fywyd yn llwyr.
“Bellach mae ganddo freuddwydion a dyheadau ac mae’n ffit ac yn iach ac mae ei hyder wedi cynyddu’n aruthrol.
“Mae Kyran wedi bod yn chwarae ers tua phum mlynedd. Fe ddechreuodd gyda'r tîm ieuenctid a symudodd ymlaen yn gyflym i'r tîm hŷn gan chwarae ei gêm gynghrair gyntaf yn 15 oed ochr yn ochr â chwaraewyr Paralympaidd a GBWR.
“Mae Kyran yn rhan annatod o’r tîm 4 a 5 ac mae ganddo ddosbarthiad Paralympaidd o 1.5.
“Mae rygbi cadair olwyn wedi newid ei fywyd.
Mae Kyran wedi dod o hyd i rywle lle mae'n ffitio ac yn perthyn ac erbyn hyn mae ganddo grŵp anhygoel o ffrindiau.
“Mae’n gweithio’n galed iawn ac yn ymdrechu i wella. Mae'r cyfleoedd mae’r gamp wedi'u rhoi iddo yn rhagorol. Mae wedi ennill nifer o wobrau chwaraeon, yn fwyaf diweddar gwobr cymorth chwaraeon i'w helpu i gystadlu a hefyd teitl Chwaraewr y Flwyddyn Rygbi Cadair Olwyn y Gweilch.
“Mae’r effaith gadarnhaol mae chwaraeon wedi’i chael ar fywyd Kyran yn syfrdanol.
“Mae’n amhrisiadwy ei weld yn tyfu o fod yn fachgen swil, dihyder ac anhapus yn ei arddegau i fod yn ddyn ifanc iach, hyderus ac angerddol.”
“Rydw i'n bwyta, cysgu ac anadlu rygbi cadair olwyn,” meddai Kyran.
“Mae wedi newid fy mywyd i mewn cymaint o ffyrdd ac mae gen i freuddwydion am fod yn Baralympiad un diwrnod.
“Mae gen i gymaint o fodelau rôl cadarnhaol yn fy mywyd i edrych i fyny atyn nhw. Beth bynnag yw eich anabledd chi, peidiwch â bod ofn mynd allan a rhoi cynnig ar bethau newydd. Dyma’r peth gorau rydw i erioed wedi’i wneud yn fy mywyd.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl Para Chwaraeon – gan gynnwys sut i gymryd rhan fel gwirfoddolwr neu ddod i roi cynnig ar chwaraeon anabledd yn yr ŵyl – ewch i parasportsfestival.co.uk
Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru – amserlen dros dro y gemau
Sadwrn 6 Awst
- 10:00: RGC v Dreigiau
- 10:50: Gweilch v Dreigiau
- 11:40: RGC v Tiger Seals
- 13:00: Gweilch v Tiger Seals
- 13:50: Dreigiau v Tiger Seals
- 14:40: RGC v Gweilch
- 15:30: 3ydd v 4ydd
- 16:20: 1af v 2il
- 17:10: Cyflwyniadau
Am yr Ŵyl Para Chwaraeon (1-7 Awst)
Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon wythnos o hyd yn dechrau gyda digwyddiad Cyfres insport ddydd Llun 1 Awst ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (Prifysgol Abertawe, Lôn Sgeti, Abertawe, SA2 8QB) – a fydd yn darparu cyfleoedd ar lawr gwlad a chyfranogiad cychwynnol i blant, pobl ifanc a oedolion.
Bydd fformat y digwyddiad Cyfres insport yn galluogi cyfranogwyr, hyfforddwyr a rhwydwaith ehangach o wirfoddolwyr i ehangu eu profiadau, cael mynediad at chwaraeon nad ydynt efallai wedi’u hystyried yn rhai sydd ar gael neu’n hygyrch, a ffurfio cysylltiadau â chlybiau lleol gan ddarparu cyfleoedd gwych, cynaliadwy o fewn amgylchedd cynhwysol.
Bydd mwy nag 20 o chwaraeon ar gael i gyfranogwyr gymryd rhan ynddynt, o athletau i rygbi cadair olwyn, a’r cyfan yn cael eu cyflwyno gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol. Mae’r cyfleoedd hyn i gyd yn cysylltu â llwybr lleol i mewn i glybiau cynhwysol lleol sefydledig (Clybiau insport) o bob rhan o dde orllewin Cymru.
Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon ar gael am ddim ac mae gwybodaeth a manylion cofrestru ar gael yn: parasportfestival.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167