Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr Dros Dro URC, “Mae llwyddiant y 12 mis diwethaf yn dyst i’r cydweithio rhwng GBWR, ChAC ac URC, a’n nod pwysig ni i ennyn diddordeb pobl mewn rygbi cadair olwyn yng Nghymru. Roedd cynnal y Bencampwriaeth Ewropeaidd, yma yn Stadiwm Principality, yn gyfle perffaith i lansio rhaglen ddwys o gymhwyso hyfforddwyr L1 newydd, gweithredu cymunedol a buddsoddi mewn cynhyrchu 20 cadair olwyn rygbi hybrid ychwanegol i ddod â’n cyfanswm i 30, gan roi sylw llawn i Gymru. 

“Gyda’n gilydd, gyda chefnogaeth ychwanegol y sefydliadau rhanbarthol, mewn 12 mis bu modd i ni gynnwys mwy na 7,000 o blant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion o bob oedran mewn rygbi cadair olwyn, sy’n gyflawniad aruthrol. Does dim carreg gamu well ar gyfer ffurfioli’r cydweithrediad a’n hymrwymiad ni i ddatblygu’r gamp yng Nghymru.

“Bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle unigryw i ni gefnogi datblygiad llwybr Paralympaidd ar gyfer rygbi cadair olwyn yng Nghymru. Po fwyaf o bobl y gallwn ni ymgysylltu â hwy, y mwyaf o gyfle fydd gan GBWR i ddatblygu’r chwaraewyr hynny yn athletwyr rygbi cadair olwyn y dyfodol; a dydw i ddim yn gallu meddwl am ffordd well o adeiladu ar y gwaddol sydd wedi’i sefydlu.”

Ychwanegodd Jason Brisbane, Prif Swyddog Gweithredol Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr, “Mae GBWR yn falch iawn o gyhoeddi ein cydweithrediad 5 mlynedd cyffrous gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, gyda’r nod o feithrin twf a datblygiad rygbi cadair olwyn yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth yma’n cynrychioli cyfle rhyfeddol i uno ein hangerdd cyffredin ni dros gynhwysiant, sbortsmonaeth, a phŵer trawsnewidiol rygbi cadair olwyn.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i greu amgylchedd ffyniannus lle gall athletwyr o bob gallu ragori, gan arddangos potensial aruthrol rygbi cadair olwyn ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o chwaraewyr yng Nghymru. Rydyn ni’n credu, drwy’r cydweithio yma, y gallwn ni wirioneddol newid bywydau, goresgyn rhwystrau, ac ailddiffinio'r hyn sy'n bosibl ym myd chwaraeon anabledd”.

Thirteen people including respresentatives from DSW, WRU and GWBR posing for a photo outside Principality Stadium in Cardiff

Bydd y bartneriaeth bum mlynedd yn cynnwys GBWR yn cyflwyno hyfforddiant rygbi cadair olwyn Lefel 2 ddwywaith y flwyddyn yng Nghymru, a chyn hynny byddai’n ofynnol i hyfforddwyr yng Nghymru deithio i Loegr neu rannau eraill o’r DU i gael mynediad i’r lefel yma o hyfforddiant. Bydd URC yn parhau i gyflwyno hyfforddiant rygbi cadair olwyn Lefel 1 ledled Cymru ac yn cefnogi’r sylfeini rhanbarthol i helpu i dyfu’r fformatau ieuenctid a hŷn o rygbi cadair olwyn yn eu rhanbarthau.

Gyda’i gilydd bydd GBWR, ChAC ac URC yn rhoi sylw i adnabod chwaraewyr drwy ddyddiau Adnabod Talent, gan greu cyfleoedd chwarae a llwybr diriaethol ar gyfer athletwyr y dyfodol. Mae’r dyddiau Adnabod Talent yn dechrau o ddydd Sadwrn 8fed Gorffennaf 2023 ymlaen a bydd yn gam hanfodol i adnabod a datblygu’r genhedlaeth nesaf o arwyr rygbi cadair olwyn benywaidd a gwrywaidd Cymru.

Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru, “Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wir wedi gwerthfawrogi’r berthynas gynhyrchiol a chydweithredol yr ydyn ni wedi’i chael gydag Undeb Rygbi Cymru a Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr ers blynyddoedd lawer, ac mae’n gyffrous iawn cael y cyfle i ddod â hynny’n fyw eto drwy gyhoeddi'r cytundeb partneriaeth tair ffordd yma.

“Roedd Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn Stadiwm Principality fis Mai eleni yn arddangos y pŵer, y cyffro a’r ddrama dactegol sy’n rhan o’r gamp, a’i lleoli mewn gwlad sy’n angerddol am rygbi ac mewn stadiwm mor eiconig.

“Mae’n bleser gan ChAC barhau i weithio gydag URC a GBWR i sicrhau bod y llwybrau ar gyfer chwaraewyr rygbi cadair olwyn yn cael eu cryfhau, bod chwaraewyr Cymru’n cael eu hysbrydoli i symud ymlaen i lwybrau Prydain Fawr, a bod rygbi cadair olwyn yn cael ei broffilio i bobl sydd ddim yn gwybod ei fod ar gael efallai. Roedd y digwyddiad yn anhygoel ac mae’r cyfle i weithredu ei waddol gyda’n gilydd yn wych.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiau Adnabod Talent GBWR sydd i ddod neu i gofrestru cliciwch yma: https://gbwr.org.uk/wales-to-world-stage/


Pynciau yn yr erthygl hon:
Undeb Rygbi Cymru (URC)Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr (GBWR)Rygbi Cadair Olwyn

Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: