Ydych chi wedi meddwl beth allai eich potensial fod yn Tenis Bwrdd Para?
Mae Tenis Bwrdd Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydweithio i nodi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr Tenis Bwrdd. Rydym yn chwilio am bobl sydd â nam corfforol ac sy'n angerddol am chwaraeon ac a hoffai archwilio eu potensial mewn Tennis Bwrdd.
Nid oes angen i chi gael unrhyw brofiad o chwarae Tenis Bwrdd – efallai eich bod yn chwarae camp wahanol ac yn teimlo y gallai Tenis Bwrdd fod yn gyfle i chi.
Beth mae’r ymgyrch yn edrych fel?
Byddwn mewn cysylltiad â chyfleoedd i gymryd rhan a darparu cymorth ac arweiniad.
Bydd diwrnodau adnabod talent ar gael ac yn cael ei gyflwyno gan hyfforddwyr llwybr profiadol a fydd yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar Tenis Bwrdd mewn amgylchedd hwyliog, gyda chefnogaeth.
Pam Tenis Bwrdd?
Gwrandewch ar rai o chwaraewyr Tenis Bwrdd Cymru: https://youtu.be/dJIySuaipaI
Tom Mathews
“Mae tenis bwrdd yn gamp gynhwysol sy’n rhoi’r gallu i chi chwarae ar unrhyw lefel, mae fel gêm o wyddbwyll – mae pob pwynt yn wahanol!”.
Josh Stacey
“O fy mhrofiad i, mae chwarae Tenis Bwrdd wedi rhoi rhywbeth i mi weithio tuag ato o ddydd i ddydd a rhywbeth i fynd ar ei ôl. Mae Tenis Bwrdd wedi fy ngalluogi i weld lleoedd ar draws y byd na fyddwn i erioed wedi gallu eu gweld. Mae wedi rhoi’r cyfle i mi wneud rhywbeth rwy’n ei garu o ddydd i ddydd ac os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar Tenis Bwrdd byddwn yn bendant yn argymell iddynt i roi gynnig arni!”
Paul Karabardak
“Rwy’n meddwl y dylech chi roi gynnig ar Tenis Bwrdd oherwydd mae’n hwyl ac yn heriol iawn. Rydych chi hefyd yn cael y cyfle i gystadlu a chwarae mewn llawer o gynghreiriau gwahanol a chwrdd â llawer o bobl wych. Mae pob gêm/sesiwn hyfforddi bob amser yn wahanol sy’n ei gadw’n ffres ac yn hwyl felly nid yw’n undonog ac mae hyn yn ei wneud yn gyffrous ac yn ddiddorol”.