Bydd un ar hugain o athletwyr o Gymru yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo (24 Awst - 5 Medi) tra bydd Cymru yn cynrychioli 10% o gyfanswm yr athletwyr sy'n cynrychioli tim Paralympaidd Prydain Fawr yn Japan.
Gallai fod yn Gemau Aur sy'n torri record i athletwyr Cymru - gan fod gennym obeithion medalau ar draws 12 camp wahanol.
“Bob pedair mlynedd mae gen i’r anrhydedd a’r pleser aruthrol i longyfarch ac arsylwi ein perfformwyr mewn Gemau Paralympaidd. Fel llawer o Olympiaid mae’n binacl gyrfa athletwr yn eu dewis chwaraeon” meddai Anthony Hughes MBE, Rheolwr Perfformiad, Chwaraeon Anabledd Cymru.
“Eleni, bydd hyd yn oed yn fwy o bleser gwylio un ar hugain o athletwyr talentog Cymru yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd 2020 er gwaethaf heriau ychwanegol y gallent fod wedi eu hwynebu trwy Covid i gyrraedd Tokyo”
“Fel Rheolwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru sy'n arwain y Rhaglen Llwybr Perfformiad; mae gweld ffrwyth ein llafur, y rhaglenni ac ymyriadau swyddogion yn hollol anhygoel i'w arsylwi ar lwyfan y byd.”
I ddarllen mwy am yr athletwyr ymwelwch â: https://tokyo2020.disabilitysportwales.com/
Y 22 athletwyr talentog o Gymru yw:
Hollie Arnold – Javelin
James Ball – Cycling
Olivia Breen – Sprint & long jump
Gemma Collis-McCann – Wheelchair fencing
Aled Davies – Shot Put
Kyron Duke – Shot Put
Sabrina Fortune – Shot Put
Jack Hodgson – Judo
Harri Jenkins – Sprint
Paul Karabardak – Table Tennis
Tom Mathews – Table Tennis
Beth Munro – Taekwondo
Dave Phillips – Archery
Ben Pritchard – Rowing
Jim Roberts – Wheelchair rugby
David Smith – Boccia
Josh Stacey – Table Tennis
John Stubbs - Archery
Laura Sugar – Canoeing
Harrison Walsh – Discus
Georgia Wilson – Dressage
DIWEDDARIAD: Yn anffodus, er iddynt gael ei ddewis i gystadlu yn Gemau ParalympaiddGB, mae Rob Davies (Tenis Bwrdd) a Matt Bush (Taekwondo) wedi gorfod tynnu'n ôl drwy anaf. Hoffai Chwaraeon Anabledd Cymru ddymuno gwellhad buan i'r ddwy athletwr, ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi mewn cystadlaethau yn y dyfodol.


