Llun: © Robin Palmer / Alamy
Gweithdy Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026
Ymunwch â ni am noson o weithdai a rhwydweithio i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Wedi'i gynnal gan Chwaraeon Anabledd Cymru, gyda chefnogaeth gan Bute Energy, mae'r digwyddiad yn gyfle unigryw i gysylltu, dysgu a chydweithio. Mae'r digwyddiad yn dod ag amrywiaeth o athletwyr a lleisiau Paralympaidd o bob cwr o Gymru ynghyd, gan greu lle i rannu profiadau, adeiladu rhwydweithiau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Trwy drafodaeth agored a mewnwelediad o brofiadau byw, bydd y sesiwn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar lesiant, tra hefyd yn archwilio sut y gallwn ar y cyd dyfu a chryfhau cyfleoedd gweithgarwch corfforol a chwaraeon cynhwysol i fenywod ledled Cymru.
Bydd y sesiynau'n cynnwys y canlynol:
-
Taith yr Athletwr a gyflwynir gan athletwr Cleddyfa Paralympaidd presennol Gemma Collis (4 x Gemau Paralympiadd, 3 x enillydd Cwpan y Byd, enillydd medal arian Ewropeaidd, a Phencampwr y Gymanwlad)
-
Cyfweliad gyda Mandy Troddyn, enillydd medal Pêl-droed Deaflympics GB (3 x Deaflympics)
-
Gweithdu coffi a gyflwynir gan Rhwyfwr Paralympaidd presennol Ben Pritchard (Pencampwr (PR1) Gemau Paralympaidd , y Byd ac Ewropeaidd presennol)
-
Gweithgaredd llesiant cynhwysol a gyflwynir gan Megan Pritchard, Reform Pilates
-
Cyfle i rwydweithio a lluniaeth
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Mae'r sesiynau ar agor ac ar gael i fenywod a chynghreiriaid o gymunedau ym mhob lefel o weithgarwch corfforol gan gynnwys chwaraeon.
Amserlen y Digwyddiad
5:30yp chyrraedd a lluniaeth
6:00-7:30yp gweithdai
7:30-8:00yp rhwydweithio a lluniaeth

