Ffotograffiaeth gan Christopher Cox

Mae Caroline Matthews yn dychwelyd fel Prif Hyfforddwr Tîm 3X3 y Dynion am ail dymor, gyda James Coyle-King yn Brif Hyfforddwr Merched a Jo Coates-McGrath yn Rheolwr Tîm. 

 Wrth ddychwelyd i’r rôl, mae Caroline “wrth ei bodd ac yn hynod o falch o gael cymryd rôl Prif Hyfforddwr sgwad pêl-fasged cadair olwyn dynion Cymru 3x3 yn ein hymgyrch ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2026.” Arweiniodd Caroline dîm y dynion yn yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Gemau’r Gymanwlad 2022 a chwaraeodd y tîm ieuengaf yn y digwyddiad rhagbrofol. Bedair blynedd yn ddiweddarach mae Caroline yn gyffrous am y cyfle i helpu athletwyr i gyflawni eu potensial ac i godi proffil y gêm yng Nghymru. 

Fel prif hyfforddwr Merched, daw James â phrofiad o bob grŵp oedran mewn pêl-fasged cadair olwyn, ar ôl arwain Tîm Dynion Dan 18 Cymru yn ddiweddar yn y Pencampwriaethau Iau Cenedlaethol yn 2024. Mae James yn edrych ymlaen at "ychydig fisoedd diddorol a dwys" wrth iddo geisio gwneud ei ddewisiadau ar gyfer sgwad hyfforddi merched.

Yn olaf, mae Jo yn tynnu ar ei chyfoeth o brofiad mewn rheoli tîm o amrywiaeth o chwaraeon i gefnogi’r ddau dîm yn eu hymgyrch yn y Gymanwlad, gan arwain ar logisteg tîm a chyfathrebu. Mae Jo "yn gyffrous i gefnogi grŵp talentog o chwaraewyr wrth iddynt gynrychioli eu Gwlad yn y gamp gyffrous hon." 

Mae datganiadau o ddiddordeb gan y chwaraewyr ar gyfer y rhaglen yn parhau ar agor tan y 19eg o Fai.


Pynciau yn yr erthygl hon:
Chwaraeon ElitaiddLlwybr PerfformiadGemau GymanwladPêl-fasged Cadair Olwyn3X3


Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: