Dim ond 18 mis a gymerodd i Beth Munro fynd o roi cynnig ar taekwondo am y tro cyntaf i ennill medal arian yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo – ac yn awr yn yr Ŵyl Para Chwaraeon yn Abertawe (1-7 Awst) mae’r athletwraig elitaidd fuddugol yn gobeithio y bydd eraill yn dilyn yn ôl ei throed ac yn dod i roi cynnig ar bara chwaraeon!
Fel chwaraewraig pêl rwyd dda iawn, roedd Beth yn awyddus i roi cynnig ar chwaraeon eraill a gyda’r nod hwnnw mynychodd ddigwyddiad Cyfres insport a drefnwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru yng Ngogledd Cymru.
Heb unrhyw ddisgwyliadau nac unrhyw syniad go iawn o beth i'w ddisgwyl, cyflwynodd y digwyddiad GO TRIBeth i sawl camp. Cymerodd at y waywffon a symud i Gaerdydd i hyfforddi.
Yno y gwelodd Anthony Hughes MBE, Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru, gryfder a symudiad Beth a’i photensial ym maes crefftau ymladd – ac awgrymodd ei bod yn rhoi cynnig ar taekwondo.
Yn dyner a charedig ei natur, roedd gweld Beth yn cymryd rhan mewn camp ymosod yn anodd – ond roedd Anthony yn iawn wrth i Beth gymryd at taekwondo yn reddfol, er mawr syndod iddi!
Roedd ei chynnydd meteorig o fod yn weithiwr iechyd meddwl i fod yn Baralympiad wedi dechrau.
Enillodd Beth fedal aur yn ei chystadleuaeth ryngwladol gyntaf un, sef twrnamaint Cymhwyso Olympaidd Taekwondo Ewropeaidd 2021 ym Mwlgaria, a sicrhaodd le iddi yn Nhîm Prydain Fawr ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.
Roedd yn ymgais gyntaf hynod lwyddiannus yn y Gemau Paralympaidd, wrth i Beth ennill arian yn y categori 58kg K44 – medal Paralympaidd taekwondo gyntaf y DU!
Mae’r llwyddiant wedi parhau yn 2022, gyda Beth yn ennill aur ym Mhencampwriaethau Ewrop ym Manceinion ac arian yn y Grand Prix Para Taekwondo cyntaf yn Rhufain.

Mae Beth, sydd â Gradd Meistr mewn Seicoleg, wedi gohirio ei gyrfa seicoleg glinigol er mwyn dilyn ei breuddwyd yn y byd chwaraeon ac mae bellach yn targedu aur yng Ngemau Paralympaidd 2024 ym Mharis.
“Pe baech chi wedi dweud cyn mis Hydref 2019 y byddwn i hyd yn oed yn mynd i Gemau Paralympaidd 2021, heb sôn am ennill arian, fe fyddwn i wedi dweud ‘na, dim siawns, dydi hynny ddim i mi’,” meddai Beth.
“Roedd ar y rhestr bwced efallai, ond o dan y pennawd ‘amhosib’, oherwydd doeddwn i byth yn meddwl ei fod yn bosib, a dweud y gwir.
“Ond os oes gennych chi freuddwyd a bod y cyfle yn codi, cydiwch ynddo gyda’ch dwy law – cydio ynddo ag un llaw, cydio ynddo faint bynnag o freichiau neu goesau sydd gennych chi, ond cydiwch ynddo, oherwydd fe wnes i ac edrychwch i ble mae wedi mynd â fi!
“Rydw i’n falch iawn o gefnogi’r Ŵyl Para Chwaraeon fel model rôl.
“Rydw i eisiau i bobl ifanc gredu bod ganddyn nhw’r gallu, heb ganolbwyntio ar yr anabledd, i wneud yn dda yn y chwaraeon hyn.
“Mae angen i unrhyw unigolyn anabl fanteisio ar y cyfle a meddwl bod breuddwydion yn bosib, oherwydd rydw i’n brawf byw eu bod nhw.”
Am yr Ŵyl Para Chwaraeon (1-7 Awst)
Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon wythnos o hyd yn dechrau gyda digwyddiad Cyfres insport ddydd Llun 1 Awst ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (Prifysgol Abertawe, Lôn Sgeti, Abertawe, SA2 8QB) – a fydd yn darparu cyfleoedd ar lawr gwlad a chyfranogiad cychwynnol i blant, pobl ifanc a oedolion.
Bydd fformat y digwyddiad Cyfres insport yn galluogi cyfranogwyr, hyfforddwyr a rhwydwaith ehangach o wirfoddolwyr i ehangu eu profiadau, cael mynediad at chwaraeon nad ydynt efallai wedi’u hystyried yn rhai sydd ar gael neu’n hygyrch, a ffurfio cysylltiadau â chlybiau lleol gan ddarparu cyfleoedd gwych, cynaliadwy o fewn amgylchedd cynhwysol.
Bydd mwy nag 20 o chwaraeon ar gael i gyfranogwyr gymryd rhan ynddynt, o athletau i rygbi cadair olwyn, a’r cyfan yn cael eu cyflwyno gan Glybiau insport lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol. Mae’r cyfleoedd hyn i gyd yn cysylltu â llwybr lleol i mewn i glybiau cynhwysol lleol sefydledig (Clybiau insport) o bob rhan o dde orllewin Cymru.
Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon ar gael am ddim ac mae gwybodaeth a manylion cofrestru ar gael yn: parasportfestival.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Evans, Swyddog Cyfathrebu ChAC, ar: paul@lloydbell.co.uk / 07710 743167