I ddathlu 30 Mlynedd o gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn amlygu rhai enghreifftiau o brosiectau a gefnogwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru sydd wedi elwa o gefnogaeth a chyllid anhygoel y Loteri Genedlaethol a ddarparwyd yng Nghymru.
Boccia
Mae cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hanfodol wrth alluogi datblygiad Boccia yng Nghymru. Mae'r gefnogaeth wedi caniatáu datblygiad adnoddau hanfodol, datblygiad hyfforddwyr, cyfleoedd cystadleuaeth ac offer.
Mae hyn i gyd wedi golygu bod yna cynnydd sylweddol wedi bod mewn nifer o gyfleoedd Boccia i bobl ifanc ac oedolion anabl ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch isod.
Cyfleoedd Cymunedol
Mae cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hanfodol wrth gynnal a datblygu cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol cymunedol i bobl anabl ar draws Cymru.
Un enghraifft wych o effaith y gefnogaeth hon yw ym Chwaraeon Caerdydd Met le maent wedi datblygu sesiynau gwersyll chwaraeon iau ar gyfer anabledd. Datblygwyd y sesiynau ar gyfer plant anabl a'u brodyr a'u chwiorydd a fyddai'n elwa ar gefnogaeth ychwanegol neu ddarpariaeth chwaraeon anabledd penodol i gael y profiad gorau o gyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
I ddysgu mwy am brosiectau chwaraeon a gweithgaredd corfforol cymunedol eraill a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer pobl anabl ar draws Cymru, cliciwch isod.
Pel Gol
Mae cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hollbwysig wrth alluogi datblygiad darpariaeth Pêl-gol yng Nghymru. Mae'r cymorth wedi caniatáu cyfleoedd datblygu hyfforddwyr, offer ychwanegol a darparu cyfleoedd cystadleuaeth priodol.
Mae'r cymorth hwn wedi golygu bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer o cyfleoedd Pêl-gol i bobl ifanc ac oedolion anabl ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth cliciwch isod.
Cynghrair Cymru ar gyfer Gweithgaredd Corfforol (gan gynnwys chwaraeon) i Bobl ag Anableddau Dysgu
Diolch i gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, sefydlwyd “Cynghrair Cymru ar gyfer Gweithgaredd Corfforol (gan gynnwys chwaraeon) i Bobl ag Anableddau Dysgu” (“Y Gynghrair”) ym mis Mai 2023.
Y cenhadaeth yw i wneud Cymru y wlad orau i bobl ag anabledd dysgu gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol (gan gynnwys chwaraeon) gyda phwy bynnag y maent yn ei ddymuno, pryd bynnag y maent yn ei ddymuno a lle bynnag y maent yn ei ddymuno.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch isod.