Bu timau o gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ability Counts ym Mae Colwyn.
Roedd digwyddiad Parc Eirias, a drefnwyd gan Chwaraeon Colegau Cymru gydachefnogaeth y Grŵp a chyllid gan Chwaraeon Anabledd Cymru, ar gyfer dysgwyr o adrannauSgiliau Byw'n Annibynnol a dysgwyr cyrsiau Cyn-alwedigaethol.
Daeth 100 o ddysgwyr i gymryd rhan yn y twrnamaint, pedwar tîm i o Goleg Llandrillo, daudîm o Goleg Menai a dau dîm o Goleg Meirion-Dwyfor a Glynllifon.
Rhannwyd yr wyth tîm yn ddau grŵp, a'r timau'n chwarae pob tîm yn eu grŵp cyn myndymlaen i'r cam nesaf.
Tîm o Goleg Meirion-Dwyfor a Glynllifon ddaeth i'r brig ar ôl curo tîm o Goleg Menai yn y rownd derfynol.
Bydd y ddau dîm rŵan yn mynd drwodd i rowndiau terfynol cenedlaethol Ability Counts yngNghaerdydd fis nesaf.
Dywedodd Ollie Coles, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb RygbiCymru, fod y digwyddiad cyntaf yn llwyddiant ysgubol.
Dywedodd: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cynnal Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts cyntaf Gogledd Cymru mewn cydweithrediad â Cholegau Cymru a Chwaraeon AnableddCymru. Daeth 100 o ddysgwyr o adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol a chyrsiau Cyn-alwedigaethol Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon igymryd rhan yn y digwyddiad oedd yn agored i ddysgwyr o bob gallu.
“Rwy’n edrych ymlaen at fynd lawr i Gaerdydd gyda’n timau buddugol o Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor / Glynllifon ar gyfer y Twrnamaint Cenedlaethol. Llongyfarchiadaui bawb a gymerodd ran.”
Ychwanegodd Rob Baynham, cydlynydd Chwaraeon Colegau Cymru: “Mae pêl-droedAbility Counts yn un o uchafbwyntiau calendr chwaraeon AB ac roedd yn wych gweldllwyddiant digwyddiad cyntaf gogledd Cymru.
Mae ymgysylltu â dros 100 o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn digwyddiado’r math hwn yn dyst i ymrwymiad colegau AB i les eu dysgwyr.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ac i'r tîm buddugol o Goleg Meirion Dwyfor a’rtîm o Goleg Menai a ddaeth yn ail."
Dywedodd Marcus Politis, Uwch Swyddog Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru Chwaraeon Anabledd Cymru: "Roeddem ni wrth ein boddau i gefnogi digwyddiad pêl-droed'Ability Counts' cyntaf gogledd Cymru. Daeth dros 100 o ddysgwyr o'r adran Sgiliau Byw'nAnnibynnol i gymryd rhan yn y digwyddiad.
“Llongyfarchiadau enfawr i Rob Baynham a holl staff Colegau Cymru am sicrhau llwyddianty digwyddiad cynhwysol hwn. Ein gobaith ydy mai dyma'u un cyntaf o lawer o ddigwyddiadau ac mae'n llwyfan i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol i gynnigcyfleoedd i ddysgwyr o'r adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol yn y gogledd gymryd rhanmewn gweithgareddau yn rheolaidd.”
Dilynwch y dolenni i weld rhagor o wybodaeth am gyrsiau Sgiliau Byw'n Annibynnol a Cyn-alwedigaethol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Pictures:
Myfyrwyr yn cymryd rhan yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ability Counts ym MharcEirias, Bae Colwyn
Myfyrwyr o gampysau Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon yn cystadlu ynNhwrnamaint Pêl-droed Ability Counts ym Mae Colwyn.
Myfyrwyr ynghlwm â gwaith trefnu Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts ym Mharc Eirias, Bae Colwyn
Myfyrwyr o Goleg Menai yn cystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ability Counts ym Mae Colwyn.
Myfyrwyr o Goleg Llandrillo yn cystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ability Counts ym Mae Colwyn.
Myfyrwyr yn cynhesu ar gyfer Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts ym Mharc Eirias, Bae Colwyn











