insport CLlC
Mae’r rhaglen insport CLlC yn rhan o’r prosiect insport ehangach, sy’n anelu at helpu’r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden i gyflawni mewn ffordd sy’n cynnwys pobl anabl.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n gwybod bod y rhan fwyaf o oedolion yn cael cyfleoedd chwaraeon o ansawdd gwych mewn amgylchedd clwb ac efallai nad yw pobl anabl am gyfyngu eu cyfranogiad chwaraeon i glwb neu sesiwn ar gyfer chwaraeon anabledd neu nam yn benodol. Felly, pwrpas insport CLlC yw helpu clybiau i ddatblygu darpariaeth sy’n cynnwys pobl anabl a strwythurau clybiau sy’n darparu’r cyfleoedd gorau i’r gymuned, yn cynyddu cyfranogiad ac aelodaeth, yn galluogi rhannau ehangach o’r gymuned i gymryd rhan mewn rôl rheoli wirfoddol, ac yn parhau i ddarparu chwaraeon gwych ledled Cymru.
Felly, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu pecyn cymorth. Ei fwriad yw helpu clybiau i feddwl, cynllunio, datblygu a chyflawni’n gynhwysol er mwyn iddynt allu darparu ar draws y sbectrwm i bobl anabl a phobl heb anabledd yn y pen draw, a hynny mewn amrywiaeth o wahanol fformatau o bosib. Hanfod y pecyn cymorth yw arferion da o gwr i gwr, a bydd hynny’n golygu y bydd clybiau’n cynnig rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Yn debyg i raglenni insport eraill, pan fydd y clwb yn ymuno ag insport CLlC bydd yn cael Swyddog Achos a fydd yn rhoi cymorth i’r clwb drwy gydol y daith. Mae’r rhaglen yn cynnig pedair Safon gynyddol (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) ac mae cyfres o nodau wedi’u pennu yn erbyn y Safonau hyn. Ar y Safon Aur yn unig, bydd grŵp o gynrychiolwyr o glwb yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu taith hyd yn hyn i banel annibynnol (a fydd yn cynnwys Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwaraeon Cymru ac unigolion eraill sy’n rhan o’r byd chwaraeon). Mae’r clwb yn dangos y gefnogaeth i bob nod drwy lwytho dogfennau a gwybodaeth berthnasol ar borth pwrpasol, ac wedyn pwrpas cynnwys y cyflwyniad yw dangos i ba raddau mae’r athroniaethau cynhwysiant wedi cael eu gwreiddio drwy’r sefydliad cyfan, y gwahaniaeth mae gweithio tuag at gynhwysiant wedi’i wneud i’r clwb, ac i roi gwybod i bobl sy’n rhan o’r byd chwaraeon yn genedlaethol pa syniadau ac arferion gwych sydd gan y clwb mewn cysylltiad â chynhwysiant.
Yma fe welwch y CLlC sydd â safon insport ac sy'n gweithio tuag at y nesaf:
















Safon insport CLlC: Efydd













Safon insport CLlC: Gweithio tuag at y Safon Rhuban
Darllen y nodau ar gyfer pob safon CLlC insport
Nodau ar gyfer Safon Rhuban insport CLlC
Nodau ar gyfer Safon Efydd insport CLlC
Yn barod i ddechrau eich taith insport?
Os oes gan eich clwb ddiddordeb mewn dechrau CRC insport, eisiau mynediad at y pecyn cymorth a'r adnoddau i wella cynhwysedd eich clwb ar gyfer pobl anabl neu os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol, llenwch holiadur parodrwydd