Swyddog Cynhwysiant Gweithredol (Canolbarth Cymru)
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn chwilio am Swyddog Cynhwysiant Gweithredol sy'n canolbwyntio ar dîm, yn drefnus ac yn rhagweithiol, gyda sgiliau cyfathrebu eithriadol a chryfderau amlwg mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid cynhyrchiol, cefnogol a chynhwysol i alluogi partneriaethau effeithiol gyda Dysgwyr Anabledd Bywyd/Angen Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cyn-fyfyrwyr, Partneriaid Awdurdodau Lleol, a Phartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru.
Yn gyfrifol i:
Rheolwr Projectau
Lleoliad:
Hyblyg, ond mynediad i Swyddfa DSW, neu swyddfeydd partner o fewn y rhanbarthau
Cyflog:
£26,500 (pro rata os rhan-amser)
Oriau:
Llawn- (35 awr/wythnos) neu Ran-amser (17.5 awr/wythnos)
Contract:
Tymor Penodol (12 mis (llawn amser) 24 mis (rhan amser)) gyda'r potensial i ymestyn yn dibynnu aradnoddau.
Teithio:
Mae rhywfaint o teithio o fewn Canolbarth Cymru yn hanfodol i’r rôl hon (lle bo angen).
Dyddiad Cau:
Dydd Llun 22ain o Mehefyn 2026 5yh
Manylion cyfweliad:
Cynhelir cyfweliadau yn mis Gorffenaf 2026, a chadarnheir yr amseroedd gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer.
Pecyn Cais
Darllenwch os gwelwch yn dda:
- Disgrifiad Rôl
Cwblhewch a dychwelwch os gwelwch yn dda:
- Ffurflen gais
- Ffurflen Monitro Cydraddoldeb
- Cynnig Cynllun Cyfweld (os yn berthnasol)
Dylid cyflwyno ceisiadau i office@disabilitysportwales.com
Cefndir:
Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (neu Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC)) yw'r sefydliad arweiniol yng Nghymru ar gyfer chwaraeon anabledd a chwaraeon i bobl anabl. Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig. Rydym yn rhannu’r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru (cenedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes) a’n cenhadaeth yw:
dylanwadu, cwnnwys, ysbrydoli, insport
Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu rhaglenni penodol (rhaglen gymunedol DSWDO, insport, Hybiau Llwybrau Perfformiad) a gwasanaethau (Addysg a Hyfforddiant ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â gweithgaredd corfforol (gan gynnwys chwaraeon)) y bwriedir iddynt gefnogi llwybr o ddewis o ymgysylltu cychwynnol i chwaraeon perfformiad ar y lefel uchaf. Rydyn ni'n dîm bach o unigolion hynod ymroddedig, angerddol, a'u pwrpas cyffredin yw eiriol dros ymagwedd gynhwysol o fewn y sector.
Datganiadau Gwerth ChAC
Byddwch bob amser yn gallu disgwyl I ChAC (fel sefydliad ac unigolion o fewn y tîm):
- Hyrwyddo Pawb - Rydym yn credu mewn cyfleoedd amrywiol ac ystyrlon gyda phobl yn ganolog i bopeth a wnawn.
- Gymreig Balch - Rydym yn ymgorffori ac yn dathlu beth yw bod yn Gymro.
- Gwerth Twf - Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad a newid cynhwysol a byddwn bob amser yn cefnogi hynny.
- Amlygu Posibiliadau - Rydym yn cysylltu cyfleoedd ac yn blaenoriaethu partneriaethau, fel bod pobl yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt.
Y Cyfle:
Bydd y rôl yn ysgogi'r gwaith o greu a chydlynu Hybiau Actif Anableddau Dysgu ar draws rhanbarth Canolbarth Cymru, gan ddarparu cyfleoedd cyfranogiad ystyrlon a gwirfoddoli i ddysgwyr ILS, Sylfaen, ac ADY, cyn-ddisgyblion, a ffrindiau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Lles Actif, DSW, partneriaid yr Awdurdod Lleol, a Phartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru i fapio'r ddarpariaeth bresennol, nodi bylchau, a llunio cyfleoedd newydd gan dynnu ar ddata sylfaenol a mewnwelediad dysgwyr i lunio gweithgaredd sy'n wirioneddol gynhwysol.
Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau adeiladu perthnasoedd a sgiliau rhyngbersonol cryf er mwyn cysylltu dysgwyr AB ac AU â chyfleoedd gwirfoddoli a digwyddiadau chwaraeon cynhwysol, gan hwyluso cysylltiadau parhaol rhwng dysgwyr a'r rhwydwaith partneriaid ehangach. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc a'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i drefnu a chyflwyno rhaglenni addysg a hyfforddiant sy'n datblygu sgiliau mewn gwirfoddoli cynhwysol, arweinyddiaeth, a hyfforddi. Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rol allweddol wrth gynllunio gweithgareddau pontio ar draws cyfnodau addysgol, gan sicrhau y gall dysgwyr aros yn actif ac yn ymgysylltiol y tu hwnt i'w taith goleg.
Manyleb Person:
| Hanfodol | Ffuflen Cais | Cyfweliad |
|---|---|---|
| Angerddol a gwybodus am weithgarwch corfforol cynhwysol (gan gynnwys chwaraeon) yng Nghanolbarth Cymru. |
✓ |
✓ |
| Chwaraewr tîm, gyda dull sy'n canolbwyntio ar y person a'r gallu i weithio'n annibynnol yn ogystal â gydag eraill | ✓ | |
| Profiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu ddysgwyr ILS/Sylfaen/ADY | ✓ | ✓ |
| Datblygiad proffesiynol parhaus wedi'i gynnal sy'n berthnasol i brofiad | ✓ | |
| Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych gyda phrofiad o weithio gydag amrywiaeth eang o bobl a rhanddeiliaid | ✓ | |
| Angerddol am gyfleoedd addysg a hyfforddiant, ac yn gyfarwydd â threfnu gweithdai a chyrsiau | ✓ | ✓ |
| Sgiliau trefnu cryf | ✓ | |
| Profiad o gasglu a dadansoddi data rhanddeiliaid | ✓ | ✓ |
| Hapus i weithio'n hyblyg gyda'r potensial am oriau anghymdeithasol | ✓ | ✓ |
| Cymwys yn y Gymraeg a/neu Iaith Arwyddion Prydain, neu barodrwydd i ddysgu | ✓ | |
| Profiad o weithio gyda Darllen Hawdd, Saesneg Hawdd a mathau eraill o gyfathrebu cynhwysol, a/neu barodrwydd i ddysgu. | ✓ | |
| Dymunol | Ffuflen Cais | Cyfweliad |
|---|---|---|
| Profiad o fewn sefydliad chwaraeon neu addysg. | ✓ | ✓ |
| Yn gallu teithio o fewn Rhanbarth Canolbarth Cymru, gan gynnwys safleoedd yr Hybiau, a champysau AB ac AU. | ✓ |
Pam gwneud cais am y rôl hon?
-
Gweithio i gyflogwr teg ac amrywiol fel rhan o dîm uchelgeisiol, creadigol, dyfeisgar, hynod ymroddedig
-
Cymryd rhan mewn gwaith partneriaeth rhanbarthol i gefnogi a dylanwadu ar arfer cynhwysol parhaus
-
Diwylliant wedi'i arwain gan ymddygiad, polisïau a gweithdrefnau cynhwysol
Manteision
-
Cyflog cystadleuol
-
Gwyliau blynyddol gwych (25 diwrnod (cynyddu 1 diwrnod y flwyddyn hyd at uchafswm o 30 diwrnod), ynghyd â gwyliau statudol yng Nghymru)
-
Pecyn cit tîm wedi'i frandio
Sut i wneud cais?
Gofynnir i chi lenwi Ffurflen Gais am Gyflogaeth sy'n amlinellu gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch profiad a manylion y swydd a amlinellir yn y Disgrifiad Swydd.
Os hoffech gyflwyno'r Ffurflen Gais am Gyflogaeth trwy fideo BSL, gwnewch hynny, gan gynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen. Os hoffech dderbyn y Ffurflen Gais am Gyflogaeth mewn fformat hygyrch arall, rhowch wybod i ni drwy'r cyswllt isod.
Bydd angen i chi hefyd ddychwelyd y Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Bydd y wybodaeth hon yn ddienw ac yn gyfrinachol a bydd angen ei hanfon fel ffeil ar wahân ynghlwm wrth eich e-bost, o'r enw CYFRINACHOL. Yna bydd y wybodaeth hon yn cael ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais a'i hystyried DIM OND ar gyfer monitro cydraddoldeb y prosesau DSW ac i wneud gwelliannau amrywiaeth lle bo angen.
Byddwn yn gweithio gyda phob ymgeisydd a gweithiwr i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i berfformio i'w llawn botensial.
Dylid cyflwyno ceisiadau i office@disabilitysportwales.com
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, os gwelwch yn dda naill ai:
Ebostiwch: nia.jones@disabilitysportwales.com neu
Ffoniwch, tecstio, whatsapp neu anfon fideo i: Nia Jones 07716 110403
