Newidiodd cymaint yn y foment yna, ac mae amser ers hynny wedi cyflymu a chropian. Byddai Ant yn falch ac yn rhwystredig eleni. Mae wedi bod yn anodd i bawb hebddo.
Byddai Ant yn falch am gymaint o resymau, oherwydd bod y tîm wedi parhau ac ymestyn ei etifeddiaeth, a gyda’r gemau Paralympaidd ar y gorwel, mae’n adeg pan welwn athletwyr Cymru yn arbennig. Roedd bob amser yn ffynnu ar hynny. Mae cydweithwyr llwybr perfformiad yn llunio rhaglenni a fydd yn parhau i ddarganfod athletwyr y dyfodol, ac yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr eraill i sicrhau bod y sector yn parhau i ganolbwyntio ar gynhwysiant. Mewn partneriaeth â Sefydliad Chwaraeon Cymru mae cronfa wedi’i sefydlu yn enw Ant a bydd yn canolbwyntio ar gael adnoddau na ellir eu cael yn unman arall i bobl anabl sydd angen rhywbeth ychwanegol er mwyn iddynt barhau i ymwneud â gweithgaredd corfforol a chwaraeon. Roedd wedi siarad am hyn ers amser maith, nid oedd ei sefydlu fel rhan o’i etifeddiaeth yr hyn yr oeddem wedi’i obeithio, ond rydym yn siŵr byddai Ant yn meddwl “hen bryd!”
Fodd bynnag, byddai hefyd wedi bod yn rhwystredig, bydd ChAC yn derbyn gostyngiadau mewn buddsoddiad dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, ac mae risg i digwyddiadau sy'n arddangos chwaraeon para ar lwyfan y byd. Roedd Ant bob amser yn angerddol am y newid y mae DSW yn ei hwyluso, ond weithiau daw newid yn gynnar. Rydyn ni i gyd yn teimlo hynny am y flwyddyn ddiwethaf mewn cymaint o ffyrdd.
Ymlaen bob amser, ond rydym yn gweld eisiau chi Ant.