insport
Mae insport yn brosiect Chwaraeon Anabledd Cymru sy'n ceisio cefnogi'r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu’n gynhwysol ar gyfer pobl anabl.
Yr egwyddor y tu ôl i insport yw i ChAC ddatblygu pecynnau adnoddau a fydd yn cefnogi datblygiad meddwl, cynllunio, datblygu a chyflawni yn gynhwysol gan bawb o fewn Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC), Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Hamdden, sefydliadau’r trydydd sector a chlybiau cymunedol.
Y bwriad yw sefydlu ac wedyn cefnogi newid diwylliannol o ran y dulliau sydd gan y sectorau tuag at bobl anabl, a chefnogi'r gwaith o sicrhau dealltwriaeth o'r hyn y mae cynhwysiant yn ei olygu iddynt hwy fel casgliad o sefydliadau. Y canlyniad fydd bod cyfleoedd yn cael eu hehangu, cyfranogiad yn cynyddu, pobl anabl yn dod yn fwy actif ac yn ymgysylltu (naill ai fel chwaraewyr, neu swyddogion, hyfforddwyr, neu wirfoddolwyr), ac rydyn ni ar y cyd yn cyflawni gweledigaeth y sector ar gyfer cenedl actif lle gall pawb gael mwynhad gydol oes o chwaraeon.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu pecynnau adnoddau i gefnogi sefydliadau i gyflawni safonau cynhwysiant rhagorol ar gyfer pobl anabl mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae’r rhain wedi’u rhannu i’r 3 rhaglen a ganlyn:
- insport Clwb
- insport ChRC
- insport Partneriaethau
Mae pob rhaglen yn cynnwys 4 Safon gynyddrannol (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur), ac yn eu herbyn mae cyfres o nodau wedi'u nodi ar draws 3 maes; datblygu'r gweithlu, cymorth rhaglenni a threfniadaeth. Ar safon Rhuban mae insport CRhC ac insport sefydliadau Partneriaeth yn cael Swyddog Achos a fydd yn darparu arbenigedd cynhwysiant arbenigol i'w cefnogi i gyflawni'r nodau yn erbyn pob safon. Ar ddiwedd pob cam bydd y CRhC neu sefydliad Partneriaeth yn cyflwyno eu siwrnai hyd yma i banel annibynnol lle maent yn dangos y gefnogaeth ar gyfer pob nod drwy uwchlwytho dogfennau a gwybodaeth berthnasol i’n porthol insport pwrpasol, a bydd cynnwys y cyflwyniad wedyn yn gwasanaethu i ddangos i ba raddau y mae athroniaethau cynhwysiant wedi'u hymgorffori ar draws y sefydliad, a'r gwahaniaeth y mae gweithio tuag at gynhwysiant wedi'i wneud.
Mae gennym ni fwy na 300 o glybiau cymunedol yn gweithio tuag at safonau insport Clwb. Pwrpas insport Clwb yw cefnogi clybiau i ddatblygu eu darpariaeth fel ei bod yn cynnwys pobl anabl o fewn strwythurau a gweithgareddau clybiau sy’n darparu’r cyfleoedd gorau i’r gymuned, cynyddu cyfranogiad ac aelodaeth, galluogi adrannau mwy o’r gymuned i gymryd rhan mewn rôl llywodraethu gwirfoddol, a pharhau i ddarparu chwaraeon gwych ledled Cymru. Bwriad pecyn adnoddau insport Clwb yw cefnogi datblygiad meddwl, cynllunio, datblygu a chyflwyno cynhwysol gan y clwb fel ei fod, yn y pen draw, yn gallu darparu ar draws y sbectrwm i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, mewn amrywiaeth o fformatau gwahanol o bosibl. Mae’r pecyn adnoddau hwn yn ymwneud ag arfer da yn gyffredinol, ac wrth wneud hyn bydd yn golygu y bydd y cyfleoedd i gymryd rhan yn y camp(au) y mae’r clybiau’n eu cynnig yn cynyddu.
Mae cyflawni brand insport yn rhoi cydnabyddiaeth i gynhwysiant y sefydliad a hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth brand i bobl anabl, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i wybod bod sefydliadau wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd o ansawdd da i bobl anabl.