Noddwyr Heno


Prif Noddwr
Tai Cymru a’r Gorllewin yw un o’r darparwyr cartrefi fforddiadwy mwyaf yng Nghymru, ac mae’n rheoli 12,500 o eiddo ar draws 14 awdurdod lleol, gan gynnwys nifer sylweddol sydd wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer pobl ag ystod o anghenion penodol.
Rydyn ni’n angerddol am werth cael cartref diogel, saff a fforddiadwy i fyw ynddo a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu cyflwyno i bawb fwynhau ansawdd bywyd da, dim ots beth yw eu cefndir.
Ein nod ni o ddydd i ddydd yw gwneud llawer mwy nag adeiladu llefydd i fyw ynddyn nhw, ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.
Mae hyn yn golygu gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl yn ein cymunedau a chefnogi sefydliadau sy'n rhannu ein gwerthoedd. Fel landlord cymdeithasol cofrestredig, gallwn wneud gwahaniaeth – ond mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gallwn wneud mwy fyth o wahaniaeth.
Mae gan chwaraeon botensial aruthrol i ysbrydoli a newid bywydau felly rydym yn falch o gefnogi Cinio Gala Elusennol Chwaraeon Anabledd Cymru eleni a’r holl waith gwych mae’r sefydliad yn ei wneud i hyrwyddo cynhwysiant. Hir y parhaed hynny.


Noddwr Derbynfa Diodydd
Dan arweiniad Carys Owens, mae Whisper Cymru wedi cyflwyno rhaglenni dogfen arloesol, gan gynnwys Two Sides a enwebwyd gan Emmy Ryngwladol, a oedd yn canolbwyntio ar daith hanesyddol Llewod Prydain ac Iwerddon yn 2021, Return to Rockfield gydag Oasis a Gamechangers gyda’r BBC.
Fel swyddfa Gwledydd y cwmni cynhyrchu rhyngwladol Whisper, y flwyddyn nesaf bydd Whisper Cymru yn cyflwyno Gemau Paralympaidd 2024. Mae hefyd yn cynhyrchu Pencampwriaethau Chwe Gwlad y Merched (BBC), Cwpan Rygbi’r Byd (S4C), cynnwys ar gyfer Undeb Rygbi Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon a llawer mwy.
Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae Whisper Cymru yn raglen Darlledu Lleoedd Gorau i Weithio chwe gwaith a'r deiliad presennol Gwobr Busnes y Flwyddyn Caerdydd.
