Addysg a Hyfforddiant
Arloesodd Chwaraeon Anabledd Cymru, ynghyd â'r pedair gwlad gartref, gyda’r cwrs Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU.
Hwn oedd y cyntaf o’i fath o fewn chwaraeon anabledd, lle gallai hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ddeall sut i gyflwyno’n gynhwysol a sut i wella eu hyfforddiant i’w wneud yn gynhwysol i bobl anabl. Mae Hyfforddiant Cynnwys Anabledd wedi cael ei ehangu bellach i gynnwys dau fersiwn: un ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr mewn chwaraeon ac un ar gyfer athrawon a staff addysg. Hefyd mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn darparu hyfforddiant ar Chwarae Gyda'n Gilydd, Marchnata Cynhwysol, Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth (mewn partneriaeth ag Awtistiaeth Cymru), a hyfforddi Boccia.
Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU: Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr
Mae'n rhoi dealltwriaeth i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr o arfer cynhwysol, enghreifftiau ymarferol o gyflwyno cynhwysol, a'r theori y tu ôl iddo. Mae’r cwrs yn edrych ar ddylanwad canfyddiadau a phrofiadau, deddfwriaeth, iaith briodol i’w defnyddio o amgylch anabledd, Model Cynhwysiant Gweithgarwch, y defnydd o fodel STEP, enghreifftiau ymarferol o gynhwysiant, ac adlewyrchu ar gyflwyniad ymarferol y dysgwyr.
Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU: Addysg
Mae'r hyfforddiant cynnwys anabledd hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer athrawon a staff addysg. Mae'n cyd-fynd â Chwricwlwm newydd Cymru ac yn rhoi cyfle i athrawon wella eu gwybodaeth am gyflwyno gweithgarwch corfforol cynhwysol ac addysg gorfforol mewn ysgolion. Mae cardiau gweithgarwch ac adnoddau i ategu’r cwrs hwn, i athrawon a staff addysg eu cyflwyno y tu hwnt i’r hyfforddiant (Cyfres insport Addysg: Cyfres insport | Chwaraeon Anabledd Cymru).
Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU: Darparwyr Gwasanaethau Hamdden
Mae'n rhoi dealltwriaeth i staff canolfannau hamdden o arfer cynhwysol, canllawiau ar gyfathrebu cynhwysol, a sut i gefnogi pobl anabl i gael mynediad at wasanaethau hamdden. Mae’r cwrs yn edrych ar ddylanwad canfyddiadau a phrofiadau, deddfwriaeth, iaith briodol i’w defnyddio o amgylch anabledd, Model Cynhwysiant Gweithgarwch, y defnydd o fodel STEP, sut i gyflwyno’n gynhwysol mewn canolfan hamdden, ac adlewyrchu ar gyflwyniad ymarferol y dysgwyr.
Roedd 90% o'r rhai a fynychodd yr Hyfforddiant Cynnwys Anabledd yn teimlo bod y cwrs yn bleserus
Roedd 88% o'r rhai a fynychodd yr Hyfforddiant Cynnwys Anabledd yn teimlo eu bod wedi cael llawer o wybodaeth
Roedd 83% o'r rhai a fynychodd yr Hyfforddiant Cynnwys Anabledd yn teimlo eu bod wedi cael gwybodaeth newydd
Chwarae Gyda'n Gilydd
Mae Chwarae Gyda’n Gilydd yn rhaglen ddysgu gynhwysol greadigol a hwyliog ar gyfer plant ysgolion cynradd (blynyddoedd 5 a 6, camau cynnydd 2 a 3). Nod y cwrs yw helpu disgyblion i greu ffyrdd cynhwysol o gynnwys pob plentyn yn y gemau a’r gweithgareddau maent yn eu chwarae. Mae'n codi eu hymwybyddiaeth o anabledd a chynhwysiant, yn eu haddysgu am ganfyddiadau o bobl anabl, sut i greu gemau cynhwysol, ac addasu gweithgareddau i'w gwneud yn gynhwysol i’w ffrindiau anabl.