Llwybr Perfformiad
Mae Tîm y Llwybr Perfformiad yn nodi ac yn cefnogi unigolion i gyrraedd eu potensial o fewn chwaraeon. Mae athletwyr addawol yn cael eu harwain ar eu siwrnai tuag at lwyddiant cystadleuol posibl drwy Raglen y Llwybr Perfformiad.
Mae Rhaglen y Llwybr Perfformiad yn darparu’r amgylchedd i unigolion ddysgu, tyfu a datblygu i fod yn athletwyr ar gyfer camp sy’n cyd-fynd â phroffil / nam yr unigolyn ac i gael y cyfle gorau posibl i lwyddo yng Ngemau’r Byd, y Gemau Paralympaidd a / neu’r Gymanwlad.
Bydd y sesiynau Llwybr Perfformiad yn ceisio datblygu Cymwyseddau Corfforol a sgiliau Symud Sylfaenol yr unigolyn drwy gyflwyno sesiynau aml-sgil. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unigolion nad ydynt efallai’n ymwneud â champ benodol ar hyn o bryd ond sy’n dymuno edrych ar yr hyn y gallai’r Llwybr Perfformiad ei gynnig, ac ar gyfer unigolion sy’n mynychu sesiynau chwaraeon a gynhelir gan eu Corff Rheoli Cenedlaethol cyfatebol.
Bydd y rhaglen yn:
- Canolbwyntio ar recriwtio a datblygu drwy gynyddu nifer y cyfleoedd cyfeirio ac ymgysylltu ar gyfer cyfranogwyr ac athletwyr Hwb y Llwybr Perfformiad
- Creu partneriaethau gyda chyrff rheoli cenedlaethol, sefydliadau anabledd penodol, iechyd, addysg, asiantaethau a grwpiau
- Dylanwadu ar strwythurau newydd a phresennol i ddatblygu Llwybr Perfformiad sy'n cynnwys pobl anabl
- Cefnogi cyfranogwyr ac athletwyr sy'n dymuno trosglwyddo allan o neu ar draws i gamp arall
- Datblygu adnoddau a fydd yn cefnogi amrywiaeth o chwaraeon sydd â phroffiliau a gofynion nam CRhC / sefydliadau Prydain wrth chwilio am athletwyr posibl
- Dathlu a chyfathrebu cyflawniadau a llwyddiant ar draws y llwybr ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Athletwyr
- Hyrwyddo pwysigrwydd lles i bobl sy’n ymwneud â Rhaglen y Llwybr Perfformiad a darparu cyfleoedd i dyfu a datblygu o fewn a thu allan i chwaraeon a gweithgarwch corfforol
- Monitro effaith Rhaglen y Llwybr Perfformiad ar gyfranogwyr, athletwyr a sefydliadau partner