Boccia
Beth YW Boccia?
Mae Boccia (sy’n cael ei ynganu fel 'Bot-cha' fel byddech yn ei ddweud yn Saesneg) yn gamp Baralympaidd a gyflwynwyd yn 1984 a Boccia, ochr yn ochr â Phêl Gôl, yw'r 2 gamp Baralympaidd heb unrhyw gamp Olympaidd gyfatebol. Mae athletwyr yn taflu, yn cicio neu’n defnyddio ramp i symud pêl ar y cwrt gyda'r nod o fod yr agosaf at bêl 'jac'. Mae'r gamp yn cael ei chynllunio'n benodol ar gyfer athletwyr sydd ag anabledd sy'n effeithio ar eu swyddogaeth locomotor ac mae'n cael ei chwarae dan do ar gwrt tebyg o ran maint i gwrt badminton.
Nod y gêm yw bod yn agosach at y jac na'ch gwrthwynebydd; mae'r bêl jac yn un wen ac yn cael ei thaflu gyntaf. Mae gan un tîm chwe phêl goch ac mae gan y llall chwe phêl las. Mae'r peli yn lledr ac yn cynnwys gronynnau plastig felly nid ydynt yn bownsio ond byddant yn dal i rolio. Mae'r tîm nad yw eu pêl agosaf at y jac yn taflu nes iddynt gael pêl agosaf neu nes iddynt redeg allan o beli. Unwaith y bydd y peli i gyd wedi cael eu taflu, mae un tîm yn cael pwyntiau am bob pêl sydd ganddynt yn nes at y jac na phêl agosaf eu gwrthwynebwyr.
Gellir chwarae'r gamp fel unigolion neu fel rhan o dîm
- Unigolyn (Pawb) - Chwaraewr yn cystadlu yn erbyn gwrthwynebydd o'r un dosbarthiad dros chwe 'phen'
- Tîm (BC1 a BC2 gyda'i gilydd) - Tri chwaraewr i bob tîm ac mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn BC1. Cystadlu dros chwe 'phen' gyda phob chwaraewr yn cael dwy bêl y pen
- Pâr (BC3) - Dau chwaraewr bob ochr dros bedwar pen gyda phob chwaraewr yn cael tair pêl y pen
- Pâr (BC4) - Dau chwaraewr bob ochr dros bedwar pen gyda phob chwaraewr yn cael tair pêl y pen
Chwaraeon Anabledd Cymru a Boccia
ChAC yw'r sefydliad arweiniol ar gyfer Boccia yng Nghymru, ac mae Llwybr Perfformiad ChAC ar hyn o bryd yn cefnogi athletwyr sydd â phroffil sy'n caniatáu i unigolion symud ymlaen i'r llwybr Paralympaidd o fewn y dosbarthiadau BC1-BC4. Ar lawr gwlad mae'r gamp yn agored i bawb.
Blaenoriaethau ChAC ar gyfer y gamp yw annog mwy o hyfforddwyr a chwaraewyr i gymryd rhan yn y gamp anhygoel hon, gweithio gydag ysgolion i ddarparu gwers Addysg Gorfforol gynhwysol a darparu mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn y gamp drwy gynyddu’r gweithgareddau mewn clybiau o fewn awdurdodau lleol.