Get Out Get Active (GOGA)
GOGA #1
Cyflwynwyd cais i Ysbryd 2012 gan bartneriaid Consortiwm: Activity Alliance, Chwaraeon Anabledd Cymru, Scottish Disability Sport, Disability Sport NI a Volunteering Matters.
Wedi’i lansio yn 2016, dechreuodd rhaglen GOGA ddarparu cyfleoedd i gyrraedd y bobl anabl a heb anabledd lleiaf actif yn y DU mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol hwyliog a chynhwysol. Cynhaliwyd y rhaglen mewn 21 o leoliadau ledled y DU.
Yr ardaloedd a nodwyd ar gyfer darparu yng Nghymru oedd;
- Wrecsam (yn canolbwyntio ar Ferched a Genethod),
- RhCT (yn canolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd)
- Sir Benfro (yn canolbwyntio ar yr amgylchedd awyr agored)
Mae Rhaglen GOGA yn ymwneud â llawer mwy na bod yn actif. Mae'n cryfhau ysbryd cymunedol, yn cynyddu hyder ac yn gwella iechyd meddwl. Daw llwyddiant GOGA o fanteisio ar gymhellion bywyd real pobl i fod yn actif yn gorfforol, wedi'i ategu gan ddeg egwyddor siarad â fi yr Activity Alliance.
GOGA #2
Gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o GOGA 1, mae GOGA #2 yn ymestyn y ddarpariaeth i ystod benodol o unigolion sydd y lleiaf actif ar hyn o bryd gan ddefnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel cyfrwng ar gyfer iechyd a lles. Rydym yn awyddus i archwilio cyfleoedd i ymgysylltu â chymunedau penodol yng Nghymru lle mae darpariaeth gyfyngedig neu ddarniog ar hyn o bryd a darparu fframwaith ar gyfer datblygu gwybodaeth a dysg y gellir eu rhannu a’u hailadrodd ledled y DU.
Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill, ein tri maes a nodwyd yw:
- Addysg Ddewisol Gartref gyda Chwaraeon Sir Benfro (Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Bowys)
- Cymunedau Amrywiol Ethnig gyda Street Games (Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe)
- LGBTQI+ gyda Pride Cymru (Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy)