Pecyn Adnoddau'r Prif Swyddog insport Clwb
Cyflwyniad i insport Clwb
Mae’r rhaglen insport Clwb yn rhan o’r prosiect insport ehangach, sy’n anelu at helpu’r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden i gyflawni mewn ffordd sy’n cynnwys pobl anabl.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n gwybod bod y rhan fwyaf o oedolion yn cael cyfleoedd chwaraeon o ansawdd gwych mewn amgylchedd clwb ac efallai nad yw pobl anabl am gyfyngu eu cyfranogiad chwaraeon i glwb neu sesiwn ar gyfer chwaraeon anabledd neu nam yn benodol. Felly, pwrpas insport Clwb yw helpu clybiau i ddatblygu darpariaeth sy’n cynnwys pobl anabl a strwythurau clybiau sy’n darparu’r cyfleoedd gorau i’r gymuned, yn cynyddu cyfranogiad ac aelodaeth, yn galluogi rhannau ehangach o’r gymuned i gymryd rhan mewn rôl rheoli wirfoddol, ac yn parhau i ddarparu chwaraeon gwych ledled Cymru.
Felly, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu pecyn cymorth. Ei fwriad yw helpu clybiau i feddwl, cynllunio, datblygu a chyflawni’n gynhwysol er mwyn iddynt allu darparu ar draws y sbectrwm i bobl anabl a phobl heb anabledd yn y pen draw, a hynny mewn amrywiaeth o wahanol fformatau o bosib. Hanfod y pecyn cymorth yw arferion da o gwr i gwr, a bydd hynny’n golygu y bydd clybiau’n cynnig rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Yn debyg i raglenni insport eraill, pan fydd y clwb yn ymuno ag insport Clwb bydd yn cael Swyddog Achos a fydd yn rhoi cymorth i’r clwb drwy gydol y daith. Mae’r rhaglen yn cynnig pedair Safon gynyddol (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) ac mae cyfres o nodau wedi’u pennu yn erbyn y Safonau hyn. Ar y Safon Aur yn unig, bydd grŵp o gynrychiolwyr o glwb yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu taith hyd yn hyn i banel annibynnol (a fydd yn cynnwys Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwaraeon Cymru ac unigolion eraill sy’n rhan o’r byd chwaraeon). Mae’r clwb yn dangos y gefnogaeth i bob nod drwy lwytho dogfennau a gwybodaeth berthnasol ar borth pwrpasol, ac wedyn pwrpas cynnwys y cyflwyniad yw dangos i ba raddau mae’r athroniaethau cynhwysiant wedi cael eu gwreiddio drwy’r sefydliad cyfan, y gwahaniaeth mae gweithio tuag at gynhwysiant wedi’i wneud i’r clwb, ac i roi gwybod i bobl sy’n rhan o’r byd chwaraeon yn genedlaethol pa syniadau ac arferion gwych sydd gan y clwb mewn cysylltiad â chynhwysiant.
Ar bob Safon, bydd y clwb yn gallu defnyddio logos insport Clwb ar eu deunydd marchnata a chyfathrebu, a bydd yn cael ei hyrwyddo ar wefan Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd. Felly, os bydd pobl anabl yn chwilio am glwb yn eu hardal leol, byddant yn gwybod pa glybiau sydd fwyaf addas i’w anghenion neu eu dymuniadau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon.