Wythnos Iaith Arwyddion   17—23 Mawrth 2025  Mwy

Pecyn Adnoddau’r Prif Swyddog insport Clwb

 


insport Silver supporting graphic.png

 

Amcanion ar gyfer cyflawni Safon Arian Clwb insport


Nodau:

1. Datblygu Gweithlu

  • Gwreiddio darpariaeth gynhwysol mewn unrhyw ddisgrifiadau o rolau mae’r clwb yn eu defnyddio.

  • 80% o hyfforddwyr arweiniol a gwirfoddolwyr wedi mynychu Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd (UK DIT (Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr) neu gyfatebol). Lefel 3 i hyfforddwyr arweiniol. Lefel 2 i hyfforddwyr cynorthwyol. Lefel 1 i aelodau o Bwyllgor y Clwb.

 

2. Cymorth y Rhaglen

  • Mae ‘Polisi Dewis’ y clwb yn gynhwysol i athletwyr anabl ar draws dosbarthiadau eu camp

  • Fel rhan o’i bolisi tegwch/lles, mae’n rhaid i’r clwb gael polisi neu ddatganiad ynghylch gofal a chymorth personol, ac mae’n rhaid cyfathrebu hyn i’r holl hyfforddwyr, arweinwyr, gwirfoddolwyr a staff cymorth

  • Cefnogi cyfleoedd cyfranogiad lleol ar y cyd â’r cyrff priodol (e.e. Uned Datblygu Chwaraeon, Swyddogion Datblygu Rhanbarthol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac ati).

    ​​​​​​​

 

3. Y Sefydliad

  • Mae’r clwb yn nodi cysylltiadau a phartneriaid lleol, ac mae cysylltiadau’n cael eu rhannu ag aelodau lle bo hynny’n briodol

  • Mae’r Clwb yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar ei wefan/llwyfannau cyfryngau cymdeithasol/yn cael ei chyhoeddi (sy’n cyfeirio’n glir at hygyrchedd a fformatau amgen)

  • Mae unigolion a nodir yn cael eu cyfeirio at lwybrau datblygu priodol (lle bo hyn yn berthnasol)

  • Ar ôl dyfarnu Arian yn llwyddiannus, ymrwymo i symud ymlaen i Aur o fewn amserlen y cytunir arni gan y ddwy ochr.

    ​​​​​​​

 


Nodau:

Datblygu Gweithlu  
Nodau Cymorth

Gwreiddio darpariaeth gynhwysol mewn unrhyw ddisgrifiadau o rolau mae’r clwb yn eu defnyddio.

  • Copi o’r disgrifiad o’r rôl sy’n cyfeirio at gynhwysiant
80% o hyfforddwyr arweiniol a gwirfoddolwyr wedi mynychu Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd (UK DIT (Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr) neu gyfatebol). Lefel 3 i hyfforddwyr arweiniol. Lefel 2 i hyfforddwyr cynorthwyol. Lefel 1 i aelodau o Bwyllgor y Clwb.
  • Tystysgrifau cwblhau/presenoldeb

  • Cofrestr DPP hyfforddwyr / gwirfoddolwyr yn nodi pa hyfforddwyr / gwirfoddolwyr sydd wedi cwblhau hyfforddiant

Cymorth y Rhaglen  
Nodau Cymorth

Mae ‘Polisi Dewis’ y clwb yn gynhwysol i athletwyr anabl ar draws dosbarthiadau eu camp

  • Copi o Bolisi Dewis y Clwb, sy’n cyfeirio’n briodol at y meini prawf dewis penodol sy’n berthnasol i aelodau anabl neu ddarpar aelodau anabl.

  • Tystiolaeth o ystyriaeth ar draws pob grŵp namau (fel y bo’n briodol)

Fel rhan o’i bolisi tegwch/lles, mae’n rhaid i’r clwb gael polisi neu ddatganiad ynghylch gofal a chymorth personol, ac mae’n rhaid cyfathrebu hyn i’r holl hyfforddwyr, arweinwyr, gwirfoddolwyr a staff cymorth
  • Datganiad ynghylch gofal a chymorth personol yn y polisi tegwch/lles

  • Nodi’r broses ar gyfer cyfathrebu’r polisi i’r holl hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a staff cymorth, e.e. sicrhau ei fod ar gael ar wefan y Clwb, ei gynnwys yn y pecyn croeso i hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a staff cymorth (os yw hynny’n berthnasol), anfon llythyr neu e-bost eglurhaol at unigolion

Fel rhan o’i bolisi tegwch/lles, mae’n rhaid i’r clwb gael polisi neu ddatganiad ynghylch gofal a chymorth personol, ac mae’n rhaid cyfathrebu hyn i’r holl hyfforddwyr, arweinwyr, gwirfoddolwyr a staff cymorth
  • Datganiad ynghylch gofal a chymorth personol yn y polisi tegwch/lles

  • Nodi’r broses ar gyfer cyfathrebu’r polisi i’r holl hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a staff cymorth, e.e. sicrhau ei fod ar gael ar wefan y Clwb, ei gynnwys yn y pecyn croeso i hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a staff cymorth (os yw hynny’n berthnasol), anfon llythyr neu e-bost eglurhaol at unigolion

Y Sefydliad  
Nodau Cymorth

Mae’r clwb yn nodi cysylltiadau a phartneriaid lleol, ac mae cysylltiadau’n cael eu rhannu ag aelodau lle bo hynny’n briodol

  • Rhestr cysylltiadau ar gyfer unigolion, grwpiau a phartneriaid allweddol sy’n berthnasol i’r clwb

  • Enghreifftiau o gyfathrebu ag aelodau ynghylch cysylltiadau/partneriaid allweddol

Mae’r Clwb yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar ei wefan/llwyfannau cyfryngau cymdeithasol/yn cael ei chyhoeddi (sy’n cyfeirio’n glir at hygyrchedd a fformatau amgen

  • Sgrin-luniau/enghreifftiau o’r wefan neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol

  • Enghreifftiau o ddulliau cyfathrebu, fel cylchlythyrau

  • Unrhyw enghreifftiau i ddangos ystyriaeth o hygyrchedd a chyfeiriad clir at fformatau amgen yn ôl yr angen

Mae unigolion a nodir yn cael eu cyfeirio at lwybrau datblygu priodol (lle bo hyn yn berthnasol)

  • Ymgyrch inspire

  • Cyfeirio at Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol

  • Datblygiad yn cynnwys cyfranogwyr, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a swyddogion

Ar ôl dyfarnu Arian yn llwyddiannus, ymrwymo i symud ymlaen i Aur o fewn amserlen y cytunir arni gan y ddwy ochr
  • Ymrwymiad ysgrifenedig i ddangos y cynnydd a fwriedir i'r Safon Aur.

  • Dogfennau cynllunio ategol.​​​​



Opsiynau Hygyrchedd

Maint testun

Dewiswch eich opsiwn gorau:



 

Lliw

Dewiswch eich opsiwn gorau:


 

Mae'r modd lliw Golau wedi'i ddylunio gan ddefnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, i gwrdd â Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Dylai hyn ddarparu cyferbyniad da i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

Mae'r modd lliw Tywyll hefyd yn defnyddio lliwiau brand Chwaraeon Anabledd Cymru, ond yn gwrthdroi golau a thywyllwch i greu fersiwn "modd nos". Fe'i bwriedir ar gyfer pobl nad ydynt yn hoffi sgriniau llachar, neu sy'n dymuno defnyddio eu harddangosfa mewn ffordd fwy ynni-effeithlon. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae'r modd lliw Tawel yn defnyddio lliwiau a allai fod yn fwy addas ar gyfer defnyddwyr sy'n sensitif i liwiau llachar, neu sy'n ffafrio cyferbyniad is. Nid yw'r opsiwn hwn yn bodloni Lefel AA Canllaw Hygyrchedd Cynnwys Gwe, felly efallai na fydd yn addas ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.

Mae’r opsiwn Cyferbynnedd Uchel wedi’i deilwra i gyrraedd Lefel AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, a’i fwriad yw gwneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr sydd â’r craffter gweledol isaf. Byddai defnydd delfrydol o'r gosodiad hwn yn cael ei gyfuno â maint testun Testun Canolig neu Testun Mawr.


Botymau

Mae ein steil botwm rhagosodedig yn defnyddio cefndiroedd lliw bloc sy'n cyferbynnu â chefndir y dudalen.

Gallwch newid hwn yn ddewisol i ddefnyddio botymau sy'n cynnal yr un lliw cefndir a lliw testun â phrif gynnwys y wefan, ac sy'n dynodi mai botwm gydag amlinelliad yw hwnnw. Gall hyn fod yn well gan ddefnyddwyr sy'n gallu darllen golau-ar-tywyll neu dywyll-ar-golau gyda mwy o gysur.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Priflythrennau

Gallwch ddewis lleihau'r defnydd o briflythrennau ar gyfer penawdau ac is-benawdau os ydych chi'n ei chael hi'n haws eu darllen mewn Achos Frawddeg. Gellir rhywfaint o destun, gan gynnwys acronymau, dangos mewn priflythrennau o hyd.

Dewiswch eich opsiwn gorau:



Opsiynau Cynnig

Mae'r wefan hon weithiau'n defnyddio animeiddio i ddod â'r cynnwys i fyw. Os hoffech chi analluogi hyn, gallwch chi wneud.

Dewiswch eich opsiwn gorau: