Pecyn Adnoddau’r Prif Swyddog insport Clwb
Rôl y Prif Swyddog i’r Clwb
Rôl y Prif Swyddog yw bod yn hwylusydd ac yn bwynt cyswllt rhwng y Swyddog Achos a’r clwb er mwyn gallu helpu’r clwb yn briodol i bontio o’i sefyllfa bresennol o ran cynhwysiant i’w sefyllfa ddelfrydol yn y dyfodol (y Safon Efydd, Arian neu Aur).
NID rôl y Prif Swyddog yw gwneud y gwaith dangos i gyd nac i weithio tuag at gynhwysiant, ond ar y safon Rhuban efallai y bydd yn gyfrifol am gyfeirio’r Swyddog Achos at y wybodaeth sy’n dangos eu bod wedi cyflawni yn erbyn pob un o’r nodau. Oherwydd natur diffiniad cynhwysiant, yn enwedig ar Safonau uwch insport Clwb, mae gan bawb gyfrifoldeb i sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu darparu i bobl anabl, bod y cyfleoedd hyn yn hygyrch i bobl anabl, a’u bod yn bodloni anghenion pobl anabl.
Fel yr unigolyn sy’n gwirfoddoli i gyflawni rôl y Prif Swyddog neu y gofynnir i chi wneud hynny, chi fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer y Swyddog Achos, a byddwch yn darparu adborth ar y cynnydd a’r camau gweithredu i weddill y clwb. Efallai y bydd hefyd gofyn i chi gydlynu’r cyfrifoldeb dros wahanol bethau yn y clwb ac i drefnu mynediad at hyfforddiant, gwybodaeth ac adnoddau; ond dewis y clwb fydd hynny a’r hyn fydd yn cael ei benderfynu fydd y ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd ba safon bynnag rydych chi’n gweithio tuag ati.