Pecyn Adnoddau Swyddog Arweiniol insport CLlC


Rhagair
Mae Cymru yn genedl chwaraeon falch, sydd â hanes hir o lwyddiannau o ran perfformiad a datblygiad.
Diben Chawaraeon Anabledd Cymru
Sicrhau bod pobl anabl, yn yr un modd â phobl nad ydynt yn anabl, yn debygol o fwynhau gweithgaredd corfforol (gan gynnwys chwaraeon) gydol eu hoes
Cenhadaeth Chwaraeon Anabledd Cymru
Dylanwadu, cynnwys, ysbrydoli, insport
Datganiadau Gwerth
Hyrwyddo Pawb
Rydym yn credu mewn cyfle ystyrlon, amrywiaeth eang a chyflawniad gwych, gyda phobl yn ganolog ym mhopeth rydym yn ei wneud.
Balch o’n Cymreictod
Gyda’n gilydd rydym yn ymroddedig, angerddol a chroesawgar.
Gwerthfawrogi Twf
Rydym yn gwrando ac yn dysgu; rydym yn meithrin, rhannu a chefnogi.
Tynnu Sylw at Bosibilrwydd
Rydym yn uchelgeisiol, creadigol a dyfeisgar.
Blaenoriaethau Strategol
- Sefydlu partneriaethau effeithiol ar gyfer diwylliant sector cynhwysol.
- Grymuso gweithlu cynhwysol.
- Galluogi llwybrau cynhwysol cadarn.
- Tyfu fel sefydliad iach ac atebol sy’n flaenllaw yn y sector.
Mae prosiect insport yn cyfrannu at ein blaenoriaeth strategol gyntaf: Sefydlu partneriaethau effeithiol ar gyfer diwylliant sector sy'n gynhwysol.
Bydd llwyddiant o fewn y maes blaenoriaeth hwn yn sicrhau bod yr holl sefydliadau sy'n gysylltiedig â gweithgaredd corfforol (gan gynnwys chwaraeon) yng Nghymru yn gwreiddio, datblygu a chyd-hyrwyddo newid diwylliannol cynhwysol. Mae ein rhaglenni a'n mentrau gyda phartneriaid yn hanfodol i hyn. Mae ChAC yn ceisio cyflawni'r flaenoriaeth strategol hon yn bennaf trwy ein rhaglenni insport.
Mae insport yn gyfres o raglenni a ddatblygwyd ac a hwylusir gan Chwaraeon Anabledd Cymru, sy'n anelu at gefnogi'r sectorau gweithgaredd corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu gwasanaethau sy'n gynhwysol i bobl anabl.
Mae insport yn brosiect gan Chawaraeon Anabledd Cymru a gyflwynir gyda chefnogaeth Sport Wales, sy'n anelu at gefnogi'r sectorau gweithgaredd corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu gwasanaethau sy'n gynhwysol i bobl anabl.